Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu wedi rhybuddio bod gyrwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o gael gwrthdrawiadau os ydyn nhw’n defnyddio ffôn symudol wrth yrru, wrth iddynt gefnogi ymgyrch genedlaethol diogelwch y ffyrdd.
Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o bobl yn defnyddio eu ffôn wrth yrru, mae’r pedwar heddlu yng Nghymru, ynghyd â GanBwyll, yn cefnogi ymgyrch gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n cychwyn heddiw (20 Chwefror) o dan ein hymgyrch 5 Angheuol.
Mae’r ymgyrch dair wythnos o hyd y bydd Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru’n cymryd rhan ynddi’n anelu i atgoffa modurwyr am beryglon galw, anfon neges destun, defnyddio’r rhyngrwyd neu ffrydio cerddoriaeth neu fideos wrth yrru – a’r cosbau y mae’r rhai sy’n cael eu dal yn eu hwynebu.
Mae’r canlyniadau’n amrywio o ddirwy o £200 a chwe phwynt ar eu trwydded ar gyfer trosedd untro, i waharddiad hir a dirwy o £1000 ar gyfer y rhai sy’n cael eu dal ddwywaith. Mae gyrwyr newydd, sydd wedi pasio o fewn dwy flynedd i gael eu dal, yn wynebu colli eu trwydded os byddant yn cael eu dal unwaith yn unig.
Mae deddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi’n glir bod y gyfraith yn cynnwys defnyddio ffôn ar gyfer y rhyngrwyd, gwirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ffrydio a lanlwytho cynnwys wrth yrru.
Dywedodd Mark Travis, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru: “Yr ydym yn deall bod bywyd yn brysur iawn, a bod ein ffonau nawr yn allweddol ar gyfer cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn gadael y tŷ heb ein ffonau, sy’n golygu eu bod nhw gyda ni wrth inni yrru.
“Fodd bynnag, mae defnyddio ffôn symudol wrth yrru’n gwbl annerbyniol, yn ddi-hid, ac yn peryglu bywydau. Mae canolbwyntio ar y ffordd yn fwy pwysig o lawer a bydd yn eich cadw chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ddiogel.”
Ychwanegodd Chris Neve, Prif Arolygydd Heddlu Dyfed-Powys: “Pan fyddwch chi’n mynd tu ôl i’r olwyn, eich cyfrifoldeb chi yw canolbwyntio ac aros yn wyliadwrus. Mae hyn yn golygu na ddylech fod yn gwneud neu dderbyn galwadau, anfon negeseuon testun, trydar, chwilio’r rhyngrwyd, ffrydio cerddoriaeth, neu unrhyw beth arall sy’n tynnu eich sylw o’r ffordd.
“Gwyddom fod y rhan fwyaf o yrwyr yn rhoi eu ffôn gadw neu’n diffodd y sain, ond testun pryder yw bod yna bobl o hyd yn barod i fentro gyrru pan mae eu sylw wedi’i dynnu.
“Yr ydym yn fwy na hapus i gefnogi’r ymgyrch hon gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, ond atgoffwn y rhai sy’n benderfynol o dorri’r gyfraith bod cadw ein ffyrdd yn ddiogel yn ymrwymiad drwy gydol y flwyddyn ar gyfer heddluoedd Cymru ac na fydd ein gwaith yn dod i ben pan ddaw’r ymgyrch i ben.”
Os ydych chi wedi tystio i drosedd yrru ac mae gennych fideo neu lun yn dystiolaeth, gallwch ei lanlwytho er mwyn iddo gael ei adolygu fan hyn: gosafesnap.cymru