Stamp amser presennol: 04/08/2026 02:53:58
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Dedfrydu dyn i bum mlynedd o garchar am werthu cyffuriau yn Aberystwyth

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion
Cyhoeddwyd: 10:56 25/01/2023

Canfu bod dyn a gafodd ei arestio ar ôl cael ei ddal yn cymryd cyffuriau ar y stryd yn Aberystwyth yn werthwr gweithredol, a bellach, y mae wedi’i garcharu am bum blynedd a hanner.

Galwodd aelod o’r cyhoedd Heddlu Dyfed-Powys i ddweud ei fod wedi gweld dau unigolyn yn cymryd tabledi glas ar Stryd y Gorfforaeth nos Fercher 15 Gorffennaf 2020, a bod sylwedd glas o gwmpas eu cegau.

Aeth swyddogion i’r lleoliad a gwelsant Robert Thomas, 41 oed, yn dod allan o’i gyfeiriad ar Stryd y Gorfforaeth, â phowdwr glas o gwmpas ei wefusau.

Cafodd ei stopio a’i chwilio, a daethpwyd o hyd i nifer o dabledi gwyn a glas yn ei feddiant, gan arwain at ei arést.

Yna, chwiliodd swyddogion gartref Thomas, gan ddod o hyd i fag a oedd yn cynnwys 3g o ganabis llysieuol, yn ogystal â thafol fach a 0.77g o ganabis o dan ei wely.

Wedi hyn, daeth swyddogion o hyd i 101,000 o dabledi gwyn a glas mewn cynwysyddion amrywiol, gan gynnwys dau fwced mawr, a oedd yn cynnwys miloedd o dabledi.  

Wrth gael ei dderbyn i’r ddalfa, chwiliwyd Thomas ymhellach, a daethpwyd o hyd i ragor o dabledi glas mewn bag snap rhwng bochau ei ben ôl, £480 mewn arian parod, a ffôn symudol o wneuthuriad Motorola.

Credir bod Thomas wedi swmp-brynu’r hyn a gredai oedd yn dabledi Diasepam ar y rhyngrwyd i’w gwerthu ymlaen.

Fodd bynnag, datgelodd profion fforensig mai Flualprasolam oedd 3,211 ohonynt, a ddaw dan Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016, ac mai tabledi parasetamol wedi’u lliwio’n las oedd y 97,814 a oedd yn weddill.

Pe bai’r rhain wedi’u gwerthu fel Diasepam, byddai gwerth y tabledi a atafaelwyd ar y stryd rhwng £101,000 a £202,000 pe baen nhw’n cael eu gwerthu’n unigol, neu £40,000 pe baen nhw’n cael eu cyfanwerthu.

Daeth swyddogion o hyd i olion cocên ar y dafol hefyd.

Yn ystod cyfweliad, cadarnhaodd Thomas ei fod wedi talu £12,000 yr un am y tybiau mawr, ond honnodd ei fod wedi derbyn mwy nag yr oedd wedi’i archebu ac nad oedd yn eu gwerthu ymlaen.

Fodd bynnag, pan edrychodd swyddogion ar ffôn Thomas, daethant o hyd i dystiolaeth sylweddol bod cyffuriau’n cael eu gwerthu, gan ganfod cynigion i werthu cocên, MDMA, amffetaminau, canabis a Diasepam.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Steven Jones: “Yn dilyn gwaith da gan ein swyddogion, o’r rhai a ymatebodd i’r alwad gychwynnol i’r rhai a fu’n gysylltiedig â’r ymchwiliad dilynol, llwyddom i ddangos bod Thomas yn werthwr gweithredol a oedd yn gwerthu cyffuriau ar raddfa fawr yng Ngheredigion.

“Mae’r achos hwn yn dangos ein bod ni’n medru erlyn y rhai sy’n gysylltiedig â gwerthu cyffuriau heb eu dal â’r cyffuriau yn eu meddiant.

“Hoffem ddiolch i’r unigolyn a roddodd wybod inni bod Thomas yn cymryd cyffuriau ar y stryd, a gobeithiwn fod yr euogfarn hon yn helpu i sicrhau’r cyhoedd y byddwn yn gweithredu ar eu pryderon er mwyn sicrhau euogfarnau.”

Euogfarnwyd Thomas yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Abertawe. Dychwelodd yno i gael ei ddedfrydu ddydd Gwener 20 Ionawr.  

Am gynnig gwerthu cocên ac MDMA, cafodd ei  ddedfrydu i bum mlynedd a hanner o garchar am bob un. Am gynnig gwerthu amffetamin a chanabis, cafodd ei ddedfrydu i 12 mis o garchar am bob un. Fe’i dedfrydwyd i chwe mis o garchar am gynnig gwerthu Diasepam.

Bydd pob dedfryd yn rhedeg ar y cyd, sy’n golygu mai pum mlynedd a hanner yw cyfanswm ei ddedfryd.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.