Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn adroddiad brynhawn ddydd Llun, roedd presenoldeb heddlu yn yr ardal, a barhaodd drwy gydol ddydd Mawrth.
Yn dilyn eu harést ddydd Llun, medrwn gadarnhau bod Wayne Butler, 36 oed, a Stephen Dixon, 51 oed, o Valentine Court, wedi’u cyhuddo o anafu bwriadol, camgarcharu a blacmel neithiwr.
Cadwyd y ddau yn y ddalfa hyd nes iddynt ymddangos yn Llys Ynadon yr Wyddgrug fore heddiw.
Nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld neu glywed rhywbeth yn ardal Valentine Court rhwng 3.00 a 4.30 o’r gloch fore ddydd Llun.
Dymuna Heddlu Dyfed-Powys ddiolch i aelodau’r gymuned leol am eu hamynedd, ac ymddiheuro am unrhyw aflonyddwch a achoswyd.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymchwiliad i roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys, naill ai ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.
Dyfynnwch gyfeirnod: 23000645903.