Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn chwiliad byr yn Llanbedr Pont Steffan a rhannau eraill o Geredigion, arestiwyd Saul Rowan Henvey ar 7 Mai 2021 am drais y diwrnod cynt pan arweiniodd dynes yr oedd newydd gwrdd â hi yn Llanbedr Pont Steffan i mewn i’r goedwig a dweud ei fod yn ei charu, cyn ymosod arni.
Cyhuddwyd y dyn 47 oed o ardal Tregaron o drais ar 8 Mai 2021 a chafodd ei remandio i’r llys, lle y cafodd ei ddal yn y ddalfa am gyfnod hwy.
Fel rhan o ymchwiliad dwys, ailymwelodd swyddogion â honiad arall o drais yn erbyn Henvey ym mis Mai 2019.
Dywedodd y dioddefydd bod Henvey dod mynd ati pan oedd hi ar ben ei hun yng ngardd blaen ei chartref yn Llanbedr Pont Steffan.
Dylanwadodd arni i’w adael i mewn i’w chartref, lle y’i treisiodd yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw.
Parhaodd Henvey i ddylanwadu ar ei ddioddefydd am sawl mis ar ôl ei threisio, tan iddi ddod o hyd i’r cryfder i adrodd am yr hyn a ddigwyddodd wrth swyddogion Cymorth Trais Domestig, a hysbysodd yr heddlu, ym mis Ionawr 2020.
Ni ddatblygwyd yr achos ar y pryd oherwydd materion tystiolaethol, fodd bynnag, roedd y dioddefydd yn yr achos hwnnw, nad oes ganddi gysylltiad o gwbl â’r dioddefydd diweddaraf, wedi adrodd am ymddygiadau Henvey, a oedd yn cyfateb â’r ymosodiad diweddar.
Yna, yn dilyn y cyhoeddusrwydd ar ôl cyhuddiad Henvey am yr ymosodiad yn y goedwig yn Llanbedr Pont Steffan, daeth dioddefydd anghysylltiedig arall ymlaen i adrodd am drais yn ardal Llanddewi Brefi rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2021.
Yn y digwyddiad hwnnw, aeth Henvey at ddynes a oedd adref ar ben ei hun a dwyn perswâd arni i’w adael i aros y nos drwy honni ei fod yn ddigartref. Ar ddau achlysur gwahanol, deffrodd y ddynes yn ystod y nos i ganfod Henvey’n ei threisio wrth iddi gysgu yn ei gwely ei hun.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Adam Cann, “Mae’r achos hwn wedi dangos pwysigrwydd rhoi gwybod i’r heddlu pan fyddwch chi’n dioddef trais neu ymosodiad rhywiol.
“O ganlyniad i ddiffyg tystiolaeth briodol, nid oedd modd inni sicrhau cyfiawnder ar gyfer y dioddefydd cyntaf i gychwyn. Fodd bynnag, golygodd gweithredoedd a phatrwm troseddu Henvey bod modd inni brofi patrwm a ddarbwyllodd y rheithgor ei fod yn euog.”
Heddiw, roedd Henvey nôl yn Llys y Goron Abertawe, lle cafwyd ef yn euog o bedwar achos o drais yn dilyn treial ar 7 Mawrth, pan ddedfrydodd y barnwr ef i ddedfryd estynedig o 27 mlynedd - 21 mlynedd yn y carchar ynghyd â chwe blynedd ar drwydded.
Dywedwyd wrtho y byddai’n treulio dau draean o’i ddedfryd yn y carchar cyn y byddai’n gymwys i wneud cais ar gyfer parôl.
Rhoddwyd Henvey ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes a rhoddwyd gorchymyn atal amhenodol iddo ar gyfer pob dioddefydd.
Drwy gydol yr ymchwiliad a’r treial, cefnogwyd y dioddefwyr gan swyddogion arbenigol, a bu’r cymorth a’r tosturi ychwanegol a roddwyd gan y sefydliad Llwybrau Newydd wrth iddynt dywys y dioddefwyr drwy’r broses yn amhrisiadwy.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Adam Cann, “Croesewir y ddedfryd a roddwyd i Henvey heddiw, ac ry’n ni’n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o gysur i’w ddioddefwyr ac yn caniatáu iddynt symud ymlaen â’u bywydau.
“Fel swyddogion, yr ydym wedi gweld effaith drychinebus gweithredoedd ffiaidd, treisgar Henvey ar ei ddioddefwyr.
“Serch hyn, maen nhw wedi dangos penderfynoldeb, dewrder a chryfder aruthrol i ddilyn yr ymchwiliad i’r pen a’n helpu i sicrhau ei fod yn cael ei roi dan glo lle na fydd modd iddo wneud yr un peth i fenywod eraill.
“Rwy’n gobeithio bod hyn yn sicrhau pobl na fydd Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef y fath droseddau erchyll ac yn rhoi’r hyder i unrhyw un sydd wedi dioddef ymosodiad o’r fath i ddod ymlaen.
“Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn gweithio’n ddiflino i gael cyfiawnder.”
Os ydych chi wedi dioddef trosedd o’r fath, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys, naill ai ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, sef 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Tacle’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.