Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Andrew Craig Page, 36 oed, sydd heb gartref sefydlog, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun (24 Gorffennaf) ar ôl newid ei ble i euog ar ddiwrnod cyntaf ei dreial y diwrnod hwnnw.
Ar 5 Chwefror eleni, roedd y pâr yng nghartref y dioddefydd ym Machynlleth, ac yn cyd-dynnu i ddechrau, cyn i Page ddechrau holi pam yr oedd y sain wedi’i diffodd ar ei ffôn.
Dechreuodd y ddau gweryla a gwrthododd Page, a oedd yn gweiddi ac yn ymddwyn yn afreolaidd, adael pan ofynnwyd iddo wneud.
Gwaethygodd ei ymddygiad. Gafaelodd mewn cyllell a bygwth lladd y ddynes.
Yn ystod yr ymosodiad, taflodd hi i’r llawr, dilynodd hi i fyny’r grisiau â chyllell yn ei law a gwneud iddi adael y drws ar agor wrth iddi ddefnyddio’r t bach, crogodd hi hyd nes ei bod hi’n llewygu, a chyhuddodd hi dro ar ôl tro o chwarae’r dioddefydd.
Parodd y cam-drin oriau, gyda Page yn ei dilyn i’r gwely â’r gyllell a chysgu gyda hi ar y bwrdd ar erchwyn y gwely, wrth i’w ddioddefydd ofnus aros ar ddihun drwy’r nos.
Daeth i ben dim ond pan ddaeth ei fos i gasglu Page, sy’n labrwr, ar gyfer y gwaith.
Gadawyd ei dioddefydd â marciau o gwmpas ei gwddf yn dilyn y crogi, marciau ar ei phen a’i hwyneb, a thop ei brest, a chleisiau ar ei braich a’i chefn.
Ar ôl y digwyddiad, anfonodd Page sawl neges at ei ddioddefydd yn ymddiheuro, gan ddweud nad oedd wedi bwriadu ymddwyn yn dreisgar. Dywedodd wrthi fod angen help arno ac nad oedd hi’n haeddu’r hyn a wnaeth, nad oedd unrhyw le gydag ef i fynd, a’i fod yn cysgu ar y stryd ym Machynlleth.
Aeth rhywun a oedd wedi clywed am y cam-drin gan Page i fyny at y dioddefydd a’i chydweithiwr yn siop Co-op, Machynlleth. Dywedodd ei fod wedi dweud wrth ffrind ei fod wedi crogi ei ddioddefydd hyd nes ei bod hi’n anymwybodol ond mai’r unig beth yr oedd yn poeni amdano oedd “beth i’w wneud pe bai wedi marw.”
Ar 11 Chwefror, ffoniodd Page y dioddefydd yn ei ddagrau gan ddweud ei fod wedi ymosod ar ei ffrind ac nad oedd yn gwybod pam ei fod mor grac drwy’r amser.
Ar 15 Chwefror, gwahoddwyd Page yn ôl i’w chartref. Roedd y dioddefydd yn gobeithio’i gefnogi i gael help ar gyfer ei iechyd meddwl ar ôl iddo ddweud wrthi na fyddai’n dreisgar eto.
Ond pan ddaeth hi nôl lawr stâr ar ôl mynd i’r tŷ bach, dechreuodd lefain, gan ddweud ei fod wedi bod trwy ei ffôn a gweld negeseuon gan ddynion, cyn mynd yn ddig.
Parhaodd y cweryl am gryn amser cyn iddi ddweud wrtho ei bod hi’n mynd i’r gwely. Pan ddeffrodd hi, yr oedd yno’n barod i barhau i gweryla gyda hi.
Dilynodd hi, gan weiddi arni, a phan geisiodd adael drwy’r drws ffrynt, gafaelodd yn ei braich a dweud, “Dwyt ti ddim yn mynd i unman. Mae’n ddrwg gen i, rwy’n mynd i orfod ei wneud y tro hwn. Mae’n rhaid imi dy ladd di.”
Ymosododd arni eto, ac yn ystod yr ymosodiad, parhaodd â’i fygythiadau, gan ddweud, “Mae’n rhaid iti farw’r tro hwn.” Malodd Page ei theledu hefyd.
Llwyddodd y ddynes i adael y tŷ yn y pen draw, a dihangodd i’r gwaith cyn adrodd am yr ymosodiadau wrth yr heddlu.
Ar 17 Chwefror, arestiwyd a chyhuddwyd Page o grogi bwriadol, bygwth lladd, difrod troseddol ac ymosod drwy guro, a chafodd ei remandio i’r llys y diwrnod canlynol.
Plediodd yn euog ddydd Llun i drosedd o grogi nad yw’n angheuol â’r ffeithiau o fygythiadau i ladd wedi’u cynnwys a’r achos o ddifrod troseddol yn cael ei gadw ar ffeil.
Yn ogystal â’i ddedfryd o garchar, rhoddwyd gorchymyn atal pum mlynedd i Page.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Ringyll Ciaran Cotter, “Fel yr ydym yn aml yn ei weld, roedd yr achos hwn yn ymwneud â dyn yn ymddwyn yn dreisgar, sarhaus a rheolaethol, ond yna’n ymddiheuro a gofyn am gymorth unwaith i’r cam-drin ddod i ben.
“Yna, twyllodd Page ei ddioddefydd i gredu y gallai newid, ond y cyfan yr oedd eisiau gwneud oedd parhau i reoli a cham-drin.
“Hoffwn ganmol ei dewrder o ran torri’n rhydd a cheisio cymorth gan yr heddlu. Dioddefodd ddau ymosodiad cas wrth law rhywun y dylai fod wedi gallu ymddiried ynddo. Serch hyn, mae hi wedi dangos llawer o urddas yn ystod yr ymchwiliad a’r achos llys.
“Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef trais yn erbyn menywod a merched.
“Yr ydym yn gobeithio bydd y ddedfryd hon yn rhoi hyder i fwy o ddioddefwyr ddod ymlaen - byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn eich cefnogi drwy gydol yr ymchwiliad wrth inni geisio cyfiawnder ichi.”
Os ydych chi mewn perthynas gamdriniol, cysylltwch â ni ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, sef 07811 311 908.