Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys rai o’r llwybrau mwyaf poblogaidd yn y DU ar gyfer gyrwyr a beicwyr modur, a nawr bod yr haf wedi cyrraedd, mae’n croesawu nifer fawr o ddefnyddwyr ffyrdd i’r ardal heddlu i fwynhau’r golygfeydd godidog.
Yn anffodus, mae nifer fach o feicwyr modur a modurwyr yn parhau i yrru’n beryglus, yn ddi-hid neu’n wrthgymdeithasol, sy’n effeithio ar eu diogelwch nhw a defnyddwyr ffyrdd eraill.
Adlewyrchir hyn yn nifer y bobl sy’n cael eu hanafu’n ddifrifol neu eu lladd ar ffyrdd Powys – y llynedd, bu 90 gwrthdrawiad lle cafodd pobl eu hanafu’n ddifrifol a 13 marwolaeth yn y sir.
Nid yn unig y mae’r digwyddiadau hyn wedi bod yn straen ar adnoddau, yn bwysicach na hynny, maen nhw wedi achosi oes o dor calon ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid neu rywun sydd wedi dioddef anafiadau sydd wedi newid ei fywyd.
Mewn ymgais i wyrdroi’r duedd bryderus hon, mae’r heddlu’n hedfan ei ddronau er mwyn helpu swyddogion i adnabod pobl sy’n cyflawni symudiadau peryglus mewn mannau sy’n adnabyddus am ddamweiniau ffyrdd.
Dywedodd yr Arolygydd Gareth Earp: “Mae ein Huned Plismona’r Ffyrdd, mewn partneriaeth â GanBwyll, yn paratoi ar gyfer y tymor ymwelwyr sydd ar ddod, ac yn canolbwyntio ar wella diogelwch ar y ffyrdd ac ymddygiad gyrru.
“Pob blwyddyn, yr ydym yn croesawu miloedd o ymwelwyr i’r siroedd hardd sy’n ffurfio ardal Dyfed-Powys, ac fel uned, yr ydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ymwelwyr a phreswylwyr fel ei gilydd yn rhydd i deithio’n ddiogel rhag niwed.
“Yn unol â’n hamcanion i wella diogelwch ar y ffyrdd fel rhan o Ymgyrch Darwen a Phrosiect EDWARD (Pob Dydd Heb Farwolaeth ar y Ffyrdd), bydd swyddogion o’n Huned Plismona’r Ffyrdd yn awr yn cael cwmni swyddogion o’n huned ddronau arbenigol a’r tîm GanBwyll yn rheolaidd, a byddant yn cydweithio er mwyn targedu’r nifer fach hon o unigolion di-hid.
“Nod ganolog yr ymagwedd ar y cyd hon yw gwella diogelwch ar y ffyrdd, gydag addysgu a dileu ymddygiad di-hid yn egwyddor graidd, ynghyd â chymryd camau gorfodi pan fod angen.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r offer arbenigol i adnabod pobl sy’n cyflawni’r 5 trosedd angheuol, megis gyrru diofal, goryrru a defnyddio ffôn symudol. Mae swyddogion ar y tir yn cael gwybod am droseddau posibl er mwyn iddynt fynd ar eu trywydd.
Ychwanegodd yr Arolygydd Earp: “Bydd swyddogion yn cymryd ymagwedd hynod dargedig tuag at y fenter gyfunol newydd hon, a bydd gweithgareddau’n canolbwyntio’n ofalus ar fannau problemus allweddol sydd wedi’u nodi drwy ddata gwrthdrawiadau a gwybodaeth berthnasol arall.
“Yr ydym yn cydnabod y gallai rhai aelodau o’r cyhoedd fod yn bryderus ynghylch y defnydd ehangach o ddronau heddlu, a hoffem eu sicrhau bod hyn yn ymwneud â gwella diogelwch y ffyrdd ar gyfer pob defnyddiwr ffordd, ac mai dim ond arf arall ydyw sydd yn awr ar gael inni i’n cynorthwyo â’n cenhadaeth i leihau gwrthdrawiadau, atal niwed a hyrwyddo mwynhad diogel o’n hardal heddlu hardd gan breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.”