Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelwyd arian parod, cyffuriau, arfau tanio ac arfau eraill fel rhan o Wythnos Dwysáu Gwaith ar Linellau Cyffuriau.
Yr wythnos diwethaf (27 Chwefror - 5 Mawrth), cymerodd heddluoedd Prydain ran mewn Wythnos Dwysáu Gwaith ar Linellau Cyffuriau.
Gweithiodd Tarian, sy'n cynnwys swyddogion o Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gwent, gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a phartneriaid eraill i rannu cuddwybodaeth ac amharu ar droseddwyr llinellau cyffuriau.
Nod yr wythnos oedd gwneud yn siŵr yr achubir ar bob cyfle i amharu ar droseddwyr a diogelu pobl sy'n agored i niwed.
Dros yr wythnos, ledled heddluoedd de Cymru, llwyddwyd i wneud y canlynol:
Defnyddiodd swyddogion yr heddlu amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys camerâu adnabod rhifau ceir yn awtomatig, cyrchu cyllyll, gwarantau chwilio, swyddogion cudd a chŵn yr heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Weber o Tarian: “Bwriad yr wythnosau dwysau hyn yw amharu'n drwm ar gangiau troseddau cyfundrefnol lle mae eu bwriadau hunanol yn achosi poen corfforol a meddyliol syfrdanol i'r rheini y maent yn manteisio arnynt wrth eu hannog i ymuno â'u cylchoedd.
“At hynny, rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o linellau cyffuriau ac rydym wedi gweithio'n galed gyda phartneriaid o feysydd iechyd, addysg a thai yn ogystal â'r rheini sy'n gweithio mewn gwestai, ym maes trwyddedu, rhwydweithiau trafnidiaeth a'r trydydd sector i sicrhau eu bod yn gallu adnabod yr arwyddion a'r symptomau sy'n gysylltiedig â llinellau cyffuriau a beth i'w wneud os bydd ganddynt bryderon. Rydym hefyd eisiau amddiffyn ein cymunedau ac rydym wedi treulio amser mewn lleoliadau, megis clybiau bocsio ac ysgolion, i feithrin cydberthnasau ac i hysbysu pobl ifanc am y risgiau sy'n gysylltiedig â chyffuriau.
“Rydym yn parhau i erlid cyflawnwyr gweithrediadau llinellau cyffuriau. Rydym hefyd yn deall yr effaith ar bobl ifanc a allai fod wedi cael eu gorfodi i gyflawni'r troseddau hyn, ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w hamddiffyn drwy eu hatgyfeirio at gymorth a'u cyfeirio at ddulliau sydd ar waith.
“Rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol iawn yn ystod yr wythnos hon ac ni ddaw'r gwaith i ben nawr wrth geisio gwneud de Cymru yn lle anodd i droseddwyr treisgar.”