Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bachgen yn ei arddegau wedi’i garcharu am ymosod a lladrad yn cynnwys cyllell ar lwybr afon Aberaeron.
Mae Christopher Samuel, sydd bellach yn 19 oed, wedi’i ddedfrydu am ei ran mewn dau ddigwyddiad ar wahân a adawodd dioddefwyr yn ofni am eu diogelwch.
Galwyd yr heddlu i adroddiad am ladrad ar lwybr yr afon ym mis Gorffennaf llynedd. Dywedodd dioddefydd ei fod wedi ei gicio a’i bwno drosodd a throsodd a’i daflu i’r afon gan dri dyn.
Adnabu swyddogion Samuel, a oedd yn 18 oed ar y pryd ac sydd o Lanrhystud, Dylan Tapp, 18 oed, ac unigolyn 17 oed na ellir ei enwi gan mai unigolyn ifanc ydyw, fel drwgdybiedigion.
Dau fis yn ddiweddarach, derbyniodd swyddogion adroddiad am ymosodiad a ddigwyddodd ar hyd yr un llwybr. Hyrddiodd yr ymosodwr, a oedd yn dal cyllell, ei hun ato a’i daro yn ei wyneb. Cafodd ei dad, a geisiodd ymyrryd, ei fygwth â chyllell ac arf arall hefyd.
Archwiliwyd TCC yn yr ardal, negeseuon cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth gan dyst, a chyhuddwyd y tri drwgdybyn mewn cysylltiad â’r digwyddiadau.
Cyfaddefodd Samuel i’r cyhuddiadau o ladrad, ymosod gan achosi gwir niwed corfforol, affräe a meddu ar gyllell yn gyhoeddus. Cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar.
Gwadodd Tapp y cyhuddiadau o ladrad, meddu ar gyllell a dychrynu tyst. Cafodd ei ganfod yn ddieuog i’r tri chyhuddiad gan reithgor yn dilyn achos llys wythnos diwethaf.
Plediodd yr unigolyn 17 oed yn euog i ymosod gan achosi gwir niwed corfforol, affräe, meddu ar arf bygythiol, a meddu ar ganabis. Cafodd ei ddedfrydu i 4 mis o garchar a derbyniodd orchymyn hyfforddi llynedd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Adam Cann: “Roedd y rhain yn ddigwyddiadau arbennig o gas a gynhaliwyd yng ngolau ddydd mewn man cyhoeddus, ac yn ddealladwy, achosodd hyn bryder yn yr ardal.
“Nid oedd Samuel wedi bod allan o’r carchar ers amser hir am ymosodiad a oedd yn ymwneud â chyllell cyn cyflawni’r troseddau hyn yn Aberaeron. Mae’r ffaith ei fod wedi parhau i droseddu’n dangos ei gymeriad ofnadwy, a gobeithiwn fod y ddedfryd hon yn profi iddo ef – ac eraill sy’n mynnu cario arfau – na fyddwn yn dioddef ymddygiad bygythiol a threisgar.”