Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Teithiodd Arnaldo Katalay, 24 oed, o Gascoigne Way, Billericay, i orllewin Cymru er mwyn cynnal nifer o gasgliadau gan bobl yr oedd wedi helpu i’w twyllo i gredu eu bod nhw’n helpu’r heddlu/banciau i ddatgelu llygredigaeth.
Ond yr hyn a wnaeth ei drosedd oedd eu twyllo i brynu aur fel bod y twyllwyr yn medru llenwi eu pocedi eu hunain.
Derbyniodd ei ddioddefydd cyntaf, sef pensiynwraig, nifer o alwadau rhwng 2 a 18 Tachwedd 2021 gan ddyn a oedd yn honni mai’r Ditectif Brif Arolygydd Paul Stewart o Orsaf Heddlu Paddington ydoedd.
Dywedodd y swyddog ffug bod dynes wedi’i harestio wrth geisio defnyddio cerdyn banc y dioddefydd i brynu peiriant golchi o wneuthuriad Hotpoint yn siop Argos.
Wrth i’r galwadau barhau, perswadiwyd y dioddefydd i gynorthwyo ymchwiliad i ‘afalau drwg’ a oedd yn gweithio i fanc NatWest yn Canary Wharf.
Arweiniodd hyn ati’n gosod dwy archeb ar gyfer bwliwn aur gan fasnachwr ar-lein, lle y gwariodd £27,363.78. Dosbarthwyd yr aur iddi ar dri diwrnod gwahanol, sef 9, 10 ac 16 Tachwedd 2021.
Dywedodd y dioddefydd wrth “y Ditectif Brif Arolygydd Stewart” pan oedd pob dosbarthiad yn cael ei wneud a threfnodd bod ‘cludwr’ yn eu casglu o’i chyfeiriad cartref.
Ar 9 Tachwedd am oddeutu 5.15y.h., pan oedd ar y ffôn i’r “Ditectif Brif Arolygydd Stewart”, galwodd dyn heibio i’w chyfeiriad cartref i gasglu’r aur, a oedd wedi’i ddosbarthu’n gynharach y diwrnod hwnnw. Rhoddodd y pecyn, a oedd yn cynnwys gwerth £10,000 o aur, iddo a gadawodd y dyn.
Ar 10 Tachwedd, ar ôl i’r ail swm o aur gael ei ddosbarthu, daeth cludwr i’w gasglu. Gwerth yr aur a gasglwyd y diwrnod hwnnw oedd £7,913.72.
Ar 16 Tachwedd, ar ôl i’r aur gael ei ddosbarthu’n gynharach y diwrnod hwnnw, galwodd ‘cludwr’ heibio i’w chartref er mwyn casglu’r trydydd pecyn hwn. Cyfanswm yr aur a gasglwyd ar 16 Tachwedd oedd £9,450.06.
Wedi hynny, daeth cysylltiad gyda’r “Ditectif Brif Arolygydd Stewart” i ben. Ar 22 Tachwedd, sylweddolodd y dioddefydd ei bod hi wedi dioddef twyll ac adroddodd amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys.
Collodd ei chynilion bywyd drwy’r twyll hwn, fodd bynnag, ers hynny, mae’r banc wedi ei had-dalu.
Derbyniodd yr ail dioddefwyr, sef pensiynwyr priod, nifer o alwadau rhwng 2 a 26 Tachwedd 2021.
Honnodd y galwr anhysbys mai’r Ditectif Gwnstabl Robert Lawrence o’r adran twyll difrifol yng Ngorsaf Heddlu Charing Cross ydoedd.
Fe’u perswadiodd i dynnu £7,500 o’u cyfrif banc ar 9 Tachwedd, gan ddweud y byddai’n cael ei gasglu gan gludwr er mwyn datblygu eu hymchwiliad.
Ar ôl i’r arian gael ei gasglu, parhaodd “y Ditectif Gwnstabl Lawrence” i gysylltu â’i ddioddefwyr yn rheolaidd dros y ffôn, ac yn y pen draw, fe’u perswadiwyd i brynu gwerth £18,769.42 o aur gan gwmni ar-lein ar 15 Tachwedd.
Fodd bynnag, bu oedi o ran dosbarthu’r aur, ac er bod “y Ditectif Gwnstabl Lawrence” wedi parhau i gynnal cyswllt dros y ffôn â’r cwpwl, methodd y twyll.
Sylweddolodd swyddogion a oedd yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ yn dilyn y drosedd gyntaf bod y cwpl hefyd wedi dioddef twyll.
Dosbarthwyd yr aur, ond gan fod yr heddlu wedi ymyrryd, ni chafodd ei drosglwyddo i gludwr. Yn hytrach, cafodd ei ddychwelyd ar gyfer ad-daliad.
Targedwyd y trydydd dioddefydd, sef dynes oedrannus a oedd yn byw ar ben ei hun yn Sir Benfro, rhwng 26 Tachwedd ac 1 Rhagfyr 2021 gan rywun a oedd yn honni mai’r Ditectif Gwnstabl Thomas Daniel o Orsaf Heddlu Paddington ydoedd.
Dywedodd wrthi fod banc NatWest yn gysylltiedig â thwyll ac yna fe’i trosglwyddodd i’w Ringyll, o’r enw Goodwood, a aeth yn ei flaen i ddweud wrthi fod angen iddi gymryd camau gweithredu i’w cynorthwyo â’u hymholiadau.
Yn dilyn nifer o alwadau ffôn, aeth y dioddefydd i’w banc ddydd Gwener 26 Tachwedd ar ôl i’r twyllwr ddweud wrthi am dynnu £3,000 allan.
Gwrthododd y banc adael iddi dynnu’r swm llawn allan, ond gadawon nhw iddi dynnu £1,250 allan mewn arian parod.
Pan ddywedodd wrth y ‘swyddog’ ar y ffôn ei bod hi ond wedi cael tynnu’r swm hwnnw allan, digiodd y dyn wrthi.
Ar ddydd Llun 29 Tachwedd, yn dilyn galwadau ffôn pellach gan y drwgdybyn, a fynnodd ei bod hi’n tynnu mwy o arian allan, aeth y dioddefydd i Gaerfyrddin a thynnu € 1770 allan gydag asiant teithio.
Tua 6 o’r gloch nos Lun 29 Tachwedd, dywedwyd wrth Mrs Phillips am gwrdd â dyn y tu allan i’w thŷ. Rhoddodd y sterling a dynnodd allan ar 26 Tachwedd, a’r Ewros, i’r dyn.
Sylweddolodd yn ddiweddarach ei bod hi wedi dioddef twyll ac adroddodd amdano wrth yr heddlu ar 1 Rhagfyr 2021.
Roedd ymdrechion sylweddol gan dimoedd amrywiol ar draws Heddlu Dyfed-Powys, o’r timoedd plismona bro i’r Tîm Troseddau Economaidd a ditectifs yn yr adran CID, yn medru dangos mai Katalay oedd y dyn a gasglodd yr aur a’r arian parod wrth y dioddefwyr.
Defnyddiodd swyddogion gofnodion ffôn, a’r ffaith bod Katalay wedi talu am dacsi a ddefnyddiodd i fynd i gartref un o’r dioddefwyr drwy drosglwyddiad banc, i gael gafael arno, ac yn y pen draw, ei euogfarnu.
Rhannwyd y dystiolaeth a sicrhawyd ganddynt â chydweithwyr o Uned Gweithrediadau Arbennig Rhanbarth y Dwyrain, sydd wedi’i lleoli yn nwyrain Lloegr, a euogfarnodd Katalay drwy’r llysoedd fanna.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Cameron Ritchie fod troseddau Katalay wedi cael effaith andwyol ar ei ddioddefwyr.
“Mae’n dda gennym ein bod ni wedi sicrhau’r dystiolaeth i euogfarnu Katalay a’n bod ni wedi cefnogi’r dioddefwyr sydd wedi dod ymlaen,” meddai.
“Ry’n ni’n siarad am bobl sydd wedi’u twyllo i drosglwyddo eu cynilion oes, felly mae hyn wedi bod yn ergyd drom i’w hyder.
“Mae’n greulon ac yn gwbl annheg, ond rwy’n gobeithio y gallant ddod dros hyn. Maen nhw wedi cael rhywfaint, neu’r cyfan, o’u harian yn ôl, ond mae’r difrod a wnaed i’w hyder yn ddifesur.
“Yn ystod y cyfnod hwn, derbyniom dros 80 o alwadau’n adrodd am hawliadau aflwyddiannus, felly gwyddom eu bod nhw’n gwthio’n galed yn ardal Sir Benfro bryd hynny.
“Mae’n anffodus bod y bobl hyn wedi’u twyllo, ond mae’r twyllwyr hyn yn droseddwyr clyfar, gofalus a chyfrwys iawn sydd wedi gweithio i ecsbloetio tri unigolyn yr ydym yn gwybod amdanynt.
“Mae’r euogfarn hwn yn ganlyniad ymdrechion ein hymchwilwyr yn yr adran CID yn gweithio gyda’r tîm troseddau economaidd ac Ersou i gael y dystiolaeth yr oedd ei hangen i brofi bod Katalay wedi bod yn gysylltiedig â thwyllo pobl i drosglwyddo dros £88,000 mewn mis yn unig yn Sir Benfro.
“Ni fyddai’r heddlu byth yn gofyn i unrhyw aelod o’r cyhoedd i brynu aur neu nwyddau gwerthfawr eraill, na gofyn iddynt roi arian parod i gludwr. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â’r heddlu ar-lein neu drwy alw 101, neu 999 mewn argyfwng.”
Plediodd Katalay’n euog i bob cyhuddiad ym mis Ionawr 2023, ac ar ddydd Iau 2 Mawrth, fe’i dedfrydwyd i saith mis o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd, ac fe’i gorchymynnwyd i gyflawni 150 awr o waith di-dâl.