Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn adroddiad am oddeutu 6.45y.b., aeth dau swyddog i’r goedwig, sy’n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru. Gan ddefnyddio drôn, roedd modd iddynt nodi’r lleoliad, gan gynnwys gwybodaeth bod 70 cerbyd yn yr ardal.
Arestiwyd wyth unigolyn am amryw droseddau, gan gynnwys meddu â’r bwriad o gyflenwi cyffuriau a reolir a throseddau gyrru. Arweiniodd chwiliad cysylltiedig yn ardal Swydd Gaerloyw at oddeutu 100 gram o gocên yn cael ei ganfod.
Cafodd dau o’r wyth a arestiwyd eu cyhuddo a’u remandio i Lys Ynadon Llanelli bore ddoe.
Cyhuddwyd Steven Martin, 32 oed, o Edwards Close, Joys Green, Lydbrook, o yrru peryglus, gyrru pan oedd wedi’i wahardd, gyrru heb yswiriant a methu â stopio, a chyhuddwyd Leigh Papps, 34 oed, o Greenfield Road, Joys Green, Lydbrook, o achosi difrod troseddol.
Derbyniodd Papps ddirwy o £16 ac fe’i gorchmynnwyd i dalu costau llys o £85 a gordal dioddefydd o £40.
Rhoddwyd mechnïaeth amodol i Martin i ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 3 Ebrill a rhoddwyd gwaharddiad gyrru dros dro iddo.
Dywedodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price: “Gwyddom y gall rêfs achosi pryder i’r gymuned lle y’u cynhelir, ac os nad ymdrinnir â hyn yn gyflym, maent yn anodd eu stopio o ganlyniad i niferoedd mawr y bobl sy’n rhan ohonynt.
“Fel heddlu, rydyn ni’n gweithredu’n syth ar ôl cael gwybod bod digwyddiad yn cael ei drefnu. Byddwn ni’n parhau i ymateb yn gyflym i adroddiadau am gynulliadau anghyfreithlon, a byddwn ni’n erlyn y rhai sy’n gyfrifol er mwyn diogelu ein cymunedau.
“Fodd bynnag, mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau anghyfreithlon yn cael eu cydlynu’n ofalus er mwyn osgoi denu sylw’r heddlu, a bydd trefnwyr bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o osgoi cael eu dal.
“Rydyn ni’n dibynnu ar gymorth cymunedau i adrodd am unrhyw weithgarwch amheus yn syth, fel bod modd gweithredu i darfu ar gynulliadau anghyfreithlon yn gyflym.
“Byddwn yn annog ffermwyr, perchnogion tir a chymunedau lleol i adrodd am unrhyw beth maen nhw’n teimlo sy’n amheus neu’n anghyffredin ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/, drwy alw 101, neu drwy anfon e-bost at [email protected].”
Dylech fod yn ymwybodol o rai mathau o ymddygiad amheus. Os fyddwch chi’n gweld neu’n profi unrhyw un o’r ymddygiadau hyn, cysylltwch â ni ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/, drwy alw 101, neu drwy anfon e-bost at [email protected].