Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Stephen Leyson, 55 oed, o Fferm Pibwr, Capel Dewi, Caerfyrddin, ei ddyfarnu’n euog o feddu ar arf saethu, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth B yn dilyn achos pythefnos o hyd yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd ei wraig, Lynne, 51 oed, a’u mab, Samson, 22 oed, hefyd o Fferm Pibwr, eu dyfarnu’n euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Cafodd eu cydymaith, Andrew Jenkins, 50 oed, o North Hill Road, Mount Pleasant, Abertawe, ei ddyfarnu’n euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Cawsant eu harestio ar Fferm Pibwr fis Hydref 2021 yn dilyn gwarant, pan ddaeth swyddogion o hyd i 592 gram o gocên gwerth rhwng £47,760 a £60,200 ar y stryd, 1.4 cilogram o ganabis gwerth tua £15,615 ar y stryd, £17,190 mewn arian parod, a llawddryll lled awtomatig.
Arweiniodd yr ymchwiliad dilynol swyddogion at ddau unigolyn arall, sef Ritchie Coleman, 33 oed, ac Emma Calver-Roberts, 32 oed, o Vetch Close, Penfro, a blediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Rhys Jones, fod y dyfarniadau euog wedi dod o ganlyniad i ymchwiliad manwl a chymhleth.
Ychwanegodd: “Rydym yn croesawu’r euogfarn hwn sy’n ganlyniad llawer o waith caled gan ymchwilwyr penderfynol a sawl adran yn Heddlu Dyfed-Powys.
“Mae targedu cynhyrchwyr a gwerthwyr cyffuriau yn flaenoriaeth i’n heddlu yn ein hymdrechion i gael gwared ar y bobl sy’n lledaenu diflastod drwy ein cymunedau.”
Byddant yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener 23 Mehefin.