Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
‘Haia’
Gorffennodd yr hyn a ddechreuodd fel neges Instagram un gair â dedfryd o 12 mlynedd o garchar ar gyfer Jack David Peter Jones o ardal Cynghordy, Llanymddyfri.
Defnyddiodd y dyn 23 oed Instagram a Snapchat i gychwyn sgyrsiau gyda merched mor ifanc â 9 oed, cyn eu hannog i anfon fideos a lluniau anweddus ato unwaith iddo ennyn eu ffydd.
Daeth Jones i sylw’r heddlu pan gysylltodd mam â heddlu arall i ddweud bod ei merch wedi derbyn fideos gan ddieithryn ar Instagram. Roedd ei merch yn teimlo’n anghyfforddus ynghylch y cynnwys, ac yn ddigon dewr i godi ei llais.
Roedd hi’n 11 oed. Roedd Jones yn 19 ar y pryd, ond dywedodd wrthi mai 14 ydoedd.
Roedd ei mam wedi cadw sgrinluniau o’r holl negeseuon rhwng Jones a’i merch, a rhoddodd nhw i’n swyddogion.
Cynhaliodd Tîm Archwilio Ar-lein yr Heddlu warant yn ei gartref, ac archwiliwyd ei ffôn. Buan iawn y darganfu swyddogion ei fod wedi bod mewn cysylltiad â merched eraill ar-lein.
Nododd ymchwiliad digidol manwl bedwar dioddefydd posibl ledled De Cymru ac ardal Newcastle – dim ond 9 oed oedd un.
Yr oedd wedi anfon negeseuon a ddechreuodd yn ddigon diniwed, ond cyn hir, yr oedd yn eu hannog i anfon fideos a lluniau anweddus, ac ar yr un pryd, yn anfon fideos a lluniau rhywiol ohono ef ei hun.
Cysylltodd swyddogion â phob un o’r merched hyn er mwyn cael tystiolaeth a rhoi mesurau mewn grym ar gyfer sicrhau eu bod nhw’n ddiogel.
Yn ystod yr ymchwiliad, sefydlwyd bod Jones yn parhau i gysylltu â phlant ar-lein, a nodwyd dau ddioddefydd arall.
Gyda chydweithrediad pump o’r dioddefwyr hyn, ac erlyniad a arweiniwyd gan dystiolaeth a gynhaliwyd mewn perthynas â’r chweched, adeiladwyd achos cryf yn erbyn Jones, a gyfaddefodd i 12 cyhuddiad:
Diolch i ddewrder y dioddefwyr a gododd eu lleisiau, y mae wedi’i garcharu yn awr am 12 mlynedd.
*
Mae’n bwysig fod plant a phobl ifainc yn eu harddegau’n hyderus ac yn gyfforddus i siarad am yr hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein, a gyda phwy maen nhw’n siarad. Os hoffech help i gychwyn y sgyrsiau hyn, gallai’r safleoedd hyn fod o gymorth:
Dysgu’ch Plentyn am y Rhyngrwyd a Diogelwch Ar-lein | NSPCC ar gyfer sgyrsiau cyffredinol a chyngor ynglŷn â sut i ymateb os yw’ch plentyn wedi gweld rhywbeth sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
Diogelu Plant - Get Safe Online am gyngor a gwybodaeth ynghylch gwahanol rwydweithiau cymdeithasol a gemau sy’n seiliedig ar oed.
* Os ydych chi yn siarad â phobl ifainc ar-lein ac yn poeni am yr hyn yr ydych yn ei ddweud, mae cymorth ar gael i’ch helpu i reoli’ch meddyliau a’ch ymddygiad.
Mae Sefydliad Lucy Faithfull yn cynnig cyngor ar-lein, yn ogystal â gwasanaeth galw a sgwrs fyw ar gyfer pobl sy’n poeni am gael teimladau neu feddyliau rhywiol am blant.
Gwefan gymorth ar gyfer pobl sy’n poeni am droseddu all-lein| Sefydliad Lucy Faithfull