Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddeolodd Mr Williams o’r Heddlu ym mis Mawrth eleni tra’n destun ymchwiliad am drosedd rywiol a ddigwyddodd ym mis Tachwedd 2022.
Roedd y drosedd, a ddigwyddodd oddi ar ddyletswydd ac mewn tafarn, yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol amhriodol tuag at aelod benywaidd o’r cyhoedd, gan gynnwys cyffwrdd â’r dioddefydd yn rhywiol heb ei chaniatâd.
Cyfaddefodd Mr Williams y drosedd yn llawn mewn cyfweliad a derbyniodd rybudd amodol.
Cychwynnwyd achos cyn-swyddog ar y rhagosodiad pe bai Mr Williams yn dal i wasanaethu yna byddai’r ymddygiad dan sylw wedi cyfiawnhau ei ddiswyddo o’r Heddlu a’i ychwanegu at Restr Waharddedig y Coleg Plismona a fyddai’n ei atal rhag mynd yn ôl i wasanaeth yr heddlu neu wasanaeth gorfodi’r gyfraith penodedig.
Cadeiriodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis y gwrandawiad carlam a phenderfynodd fod ymddygiad y cyn-swyddog yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, pe bai’n dal i wasanaethu y byddai wedi cael ei ddiswyddo o’r Heddlu, ac y dylai nawr gael ei ychwanegu at Restr Waharddedig y Coleg Plismona.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Steve Cockwell, yr awdurdod priodol ar gyfer cwynion a chamymddwyn yn Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad proffesiynol gan ei swyddogion a’i staff, ar ddyletswydd ac oddi ar ddyletswydd. Roedd ymddygiad Mr Simon Williams yn gwbl annerbyniol a bydd y llu yn parhau i fynd ar drywydd unrhyw honiadau o natur rywiol yn ddi-baid o safbwynt troseddol a chamymddwyn.
"Mae canlyniad gwrandawiad heddiw yn adlewyrchiad o’r dull hwn ac rwy’n gobeithio y bydd yn tawelu meddwl y cyhoedd y bydd yr Heddlu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal safonau uchel o ran ymddygiad ei swyddogion a’i staff, boed ar ddyletswydd neu oddi ar ddyletswydd a ph’un a ydynt yn dal i wasanaethu ai peidio.”