Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae bachgen yn ei arddegau a reidiodd feic sgrialu ar hyd stryd un ffordd i’r cyfeiriad anghywir cyn taro dyn yn ei 90au wedi’i ddedfrydu i 12 mis mewn sefydliad troseddwyr ifainc.
Edrychodd Bradley Taylor ar y dioddefydd 94 oed wrth iddo orwedd ar y ffordd, yn gwaedu a gyda sawl asgwrn wedi torri, cyn codi ei feic i fyny a reidio i ffwrdd, heb wneud unrhyw ymgais i’w helpu.
Wrth i’r heddlu gynnal ymholiadau, cafodd y bachgen 19 oed wared ar y dystiolaeth allweddol a fyddai’n ei gysylltu â’r digwyddiad, gan gynnwys helmed unigryw, sach deithio a sedd beic.
Fodd bynnag, cynhaliwyd ymchwiliad trylwyr gan Heddlu Dyfed-Powys, a phrofodd dadansoddiad o ffilm teledu cylch cyfyng mai Taylor oedd yn gyfrifol. Cafodd ei weld yn gwthio ei feic ar hyd sawl stryd yn Llanelli cyn ei reidio i’r cyfeiriad anghywir ar hyd system un ffordd.
O fewn munudau ar ôl iddo fynd ar ei feic, yr oedd wedi taro dyn oedrannus a oedd yn croesi’r ffordd.
Torrodd y dioddefydd sawl asgwrn a threuliodd naw wythnos yn yr ysbyty ac mewn canolfan adfer cyn y cafodd fynd adref.
Cyn y digwyddiad, yr oedd yn byw bywyd bywiog ac annibynnol, yn nofio yn y môr, yn tyfu llysiau iddo’i hun a’i gymdogion, ac yn dawnsio sawl gwaith yr wythnos.
Mewn datganiad, esboniodd nad yw’n medru gwneud y pethau yr oedd yn eu caru yn awr, bod yn rhaid iddo ddibynnu ar bobl eraill, a bod methu â cherdded i’w ardd hyd yn oed wedi ‘torri ei galon’.
Cyfaddefodd Taylor i gyhuddiadau o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, methu ag aros yn dilyn gwrthdrawiad, methu ag adrodd am wrthdrawiad, a gyrru heb yswiriant.
Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher 3 Mai, lle y cafodd ei ddedfrydu i 12 mis mewn sefydliad troseddwyr ifainc.
Dywedodd Cwnstabl Protheroe, o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol, sy’n fwy arswydus oherwydd ddiffyg pryder ac edifeirwch Bradley Taylor yn lleoliad y digwyddiad.
“Mae TCC yn dangos yn glir ei fod wedi gweld bod y dioddefydd oedrannus wedi’i anafu, fodd bynnag, dewisodd Taylor reidio i ffwrdd heb geisio helpu na galw am ambiwlans.
“Mae bywyd y dioddefydd wedi’i wyrdroi’n llwyr gan yr hyn ddigwyddodd ar 6 Mawrth. Mae ei annibyniaeth wedi’i gymryd i ffwrdd, mae’n dioddef hunllefau, ac mae wedi colli’r gallu i wneud y pethau mae’n eu caru.
“Er ei fod wedi dod i delerau â’r effaith sylweddol y mae’r digwyddiad wedi cael ar ei fywyd, y mae wedi dangos cryfder aruthrol drwy gydol ein hymchwiliad, a hoffwn ddiolch iddo am ei gefnogaeth.”