Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd corff dynes 34 oed ei ddarganfod tua 4 o’r gloch y prynhawn, ac arestiwyd dyn 46 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Y mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Mae swyddogion yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a allai fod wedi gweld dyn a dynes yn Llanidloes, neu ar yr A470 rhwng Llanidloes a Dolwen, ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, neu sydd â darn ffilm camera cerbyd ohonynt.
Disgrifir y ddynes fel dynes croenwyn, 5’ 4”, o gorffolaeth fach, â gwallt rhaffog hir iawn heibio ei gwast. Roedd hi’n gwisgo top llwyd, trwser tywyll ac esgidiau rhedeg gwyn.
Disgrifir y dyn fel dyn croenwyn, tua 6’, o gorffolaeth gadarn, â gwallt rhaffog a bandana tywyll.
Yr oedd yn gwisgo siaced lachar llewys byr, crys T, trwser byr ac esgidiau rhedeg golau, ac roedd ganddo fag du gydag un strapen.
Roedd ci bach tywyll gydag ef.
Hoffem siarad hefyd â’r unigolyn a roddodd lifft i’r dyn a’i gi rhwng y Trallwng a’r Amwythig, gan ei ollwng ger cilfan Dinky’s Dinahs ddydd Sul.
Arestiwyd dyn 46 oed nos Sul ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r mater hwn ar hyn o bryd.
Cewch gysylltu â ni drwy alw 101 hefyd. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar y lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. Dyfynnwch y cyfeirnod: DP-20230528-120.