Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd chwech arall o bobl yr wythnos hon am weithgarwch yn gysylltiedig â’r brotest yng Ngwesty Parc y Strade yn Ffwrnais, Llanelli.
Roedd presenoldeb heddlu dwys yn y safle neithiwr (dydd Mercher, 4 Hydref) mewn ymateb i lefel yr anhrefn dros y diwrnodau diwethaf, ac fe wnaeth swyddogion hefyd hebrwng gweithwyr diogelwch yn ôl i’r safle, yn dilyn aflonyddwch y penwythnos blaenorol.
Mae mwy o swyddogion heddlu wedi eu dosbarthu i ymchwilio i droseddau sy’n gysylltiedig â safle’r gwesty a rhagwelir mwy o arestiadau.
Arestiwyd dyn 39 oed ar y safle neithiwr (4 Hydref) ar amheuaeth o dresmasu gwaethygedig. Y mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Arestiwyd dyn 56 oed gerllaw (ar 4 Hydref) ar amheuaeth o fod ag arf yn ei feddiant, a difrod troseddol. Y mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Arestiwyd dyn 31 oed neithiwr (4 Hydref) yn ei gyfeiriad cartref ar amheuaeth o ddifrod troseddol. Y mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Arestiwyd dyn 56 oed heddiw (5 Hydref) ar y safle ar amheuaeth o dresmasu gwaethygedig. Y mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Arestiwyd dyn 65 oed heddiw (5 Hydref) gerllaw ar amheuaeth o ddifrod troseddol. Y mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Cafodd chweched dyn, 31 oed, hefyd ei arestio heddiw (5 Hydref) ar y safle ar amheuaeth o dresmasu gwaethygedig. Y mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.
Y mae’r heddlu nawr yn parhau eu hapêl i brotestwyr ailddechrau protest heddychol ar y safle.
“Dydy protest ddim yn darparu esgus i gyflawni troseddau,” dywedodd Comander Sir Gaerfyrddin, yr Uwch-arolygydd Ross Evans.
“Cadw ein cymunedau’n ddiogel yw ein blaenoriaeth, ac fel heddlu, byddwn bob amser yn anelu at hwyluso protest heddychol cyfreithlon, gan ddal y ddysgl yn wastad rhwng hawliau eraill, cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac atal trosedd ac anhrefn,” parhaodd.
“Mae ymddygiad rhai unigolion wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl gan brotest gyfreithlon dros oddeutu’r wythnos ddiwethaf.
“Ni fyddwn yn goddef ymddygiad anghyfreithlon – pan gyflawnir trosedd, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol a chymesur i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder.
“Mae diogelwch y cyhoedd yn parhau’n flaenoriaeth i ni, a byddwn yn parhau i wrando ar bob parti a gweithio gyda nhw.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i apelio am lonyddwch unwaith yn rhagor ac annog unrhyw un sy’n cynllunio ymuno â’r brotest i ddilyn yr esiampl a osodwyd gan breswylwyr lleol, sydd wedi gwrthdystio’n heddychol dros yr ychydig fisoedd diwethaf.”
“Hoffwn ddiolch hefyd i’r tîm sydd wedi ymdrin â’r anhrefn ar safle’r gwesty dros yr wythnos ddiwethaf – maen nhw’n parhau i wynebu amgylchiadau anodd iawn.”
Mae’r arestiadau diweddaraf hyn yn gysylltiedig â’r gwaethygiad pryderus yn ymddygiad rhai protestwyr dros y penwythnos o ddydd Sadwrn 30 Medi i ddydd Sul 1 Hydref 2023 a oedd yn cynnwys dau dân ac anhrefn arwyddocaol a wnaeth arwain at ddifrod sylweddol i’r gwesty.
Os ydych chi’n bwriadu cynnal protest, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd dros y diwrnodau diwethaf, cysylltwch â’r heddlu drwy gyfryngau cymdeithasol, drwy ein gwefan ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.