Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyflwynwyd SCCH am y tro cyntaf gan y blaid Lafur, a oedd mewn llywodraeth ar y pryd, fel rhan o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002, ac maen nhw wedi bod yn bresenoldeb amlwg mewn cymunedau ledled Cymru ers 2003. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng UNSAIN, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a’r Coleg Plismona. Canfasiwyd enwebiadau ar gyfer yr 8 categori gwobr SCCH yn ystod yr haf y llynedd, a chafwyd ymateb arbennig gan heddluoedd a changhennau UNSAIN.
Roedd 32 terfynwr yn 8 categori’r gwobrau, ac ry’n ni’n falch iawn bod 2 o’r terfynwyr yn SCCH Heddlu Dyfed-Powys.
Roedd SCCH Johanna Kelham, sef Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Sir Faesyfed, yn derfynwr yn y categori Arloesedd, ac roedd SCCH Graham Jennings o Dîm Plismona Bro’r Drenewydd yn derfynwr ar gyfer y wobr Cyflawniad Oes.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith arbennig iawn a gyflawnir gan SCCH yn eu cymunedau. Talodd Claire Parmenter, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ac arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer Plismona Bro, deyrnged i’w cyfraniad aruthrol: “Rwy’n llongyfarch yr holl enillwyr teilwng, yn ogystal â’r holl derfynwyr - ond yn arbennig ein Johanna a’n Graham ni. Mae’n gydnabyddiaeth arbennig eu bod nhw’n derfynwyr teilwng ar y llwyfan cenedlaethol hwn.
“Asgwrn cefn plismona bro yw SCCH. Ni allem wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud yn ein cymunedau hebddyn nhw. Mae’r gwaith ymgysylltu maen nhw’n ei wneud, y ffordd maen nhw’n datrys problemau gyda phartneriaid, a’r gudd-wybodaeth maen nhw’n ei chael yn amhrisiadwy.
“Maen nhw’n chwarae rhan allweddol o ran gwneud ein cymunedau’n fwy diogel. Maen nhw’n arwain ein gwaith o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn mynd ati i warchod lleoliadau trosedd, ac yn ymateb i ddigwyddiadau difrifol, ac rwy’n aml yn clywed sut mae SCCH wedi dal troseddwyr treisgar, achub aelodau o’r cyhoedd, dod o hyd i bob coll perygl uwch, neu ymgysylltu â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth i’r cyhoedd a chymunedau lleol bob dydd. Braint oedd dathlu eu hymrwymiad a’u hymroddiad.
“Gwn cymaint y maent yn cael eu gwerthfawrogi, a gwn am y gwaith arbennig maen nhw’n ei wneud er mwyn atal trosedd a thawelu meddyliau ein cymunedau ledled Cymru. Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n ariannu cyfran o’r SCCH ar draws Cymru. Mae hyn yn helpu i gynnal yr adnodd pwysig hwn ar adeg pan mae gan heddluoedd nifer o ofynion ariannol sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd.”
Drwy ffurfio perthnasau gwaith agos gyda chyrff lleol ac unigolion, datrys anghydfodau a rhoi cymorth i weithrediadau’r heddlu, mae SCCH yn helpu i atal trosedd a hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Maen nhw’n gysylltiedig â mynd i’r afael â llu o faterion, gan gynnwys troseddau casineb, ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol. Maen nhw hefyd yn ofalus o bobl sy’n agored i niwed, megis yr henoed a’r rhai sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio.