Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
O ddydd Llun 2 Hydref, bydd oriau agor cownteri blaen gorsafoedd heddlu’n newid ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
O’r dyddiad hwnnw, darperir gwasanaeth wyneb yn wyneb o ddydd Llun i ddydd Gwener o 08:00 – 12 ac o 12.30 – 16:00 yn y lleoliadau canlynol:
Mae’r newid yn galluogi’r heddlu i wneud y defnydd gorau o adnoddau i gyflenwi gwasanaeth cyhoeddus effeithiol sy’n parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau cymunedau ac yn gwella argaeledd ein gwasanaeth cownter blaen, gan wneud ein horiau agor yn gliriach o lawer.
Mae’n rhan o raglen newid ehangach ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg, a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.
Bydd yr un gwasanaethau ar gael unwaith y daw'r newid i rym, a byddwch chi dal yn medru galw heibio i’ch lleoliad agosaf i ddatblygu cais am drwydded dryll, gofyn am drwydded pedler, adrodd am drosedd neu gudd-wybodaeth, cyflwyno dogfennau cyfreithiol, neu ofyn am gyngor.
Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch hefyd gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, neu ar-lein, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun ar y rhif difrys, sef 07811 311 908.
Os oes trosedd yn digwydd, neu mae perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser.
Os oes angen adrodd rhywbeth yr ydych wedi’i golli neu ei ganfod arnoch, galwch heibio i www.reportmyloss.com.
Os ydych angen adrodd am gi crwydr, cysylltwch â’r awdurdod lleol.