Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Adroddwyd am bron i 100 o ymosodiadau difrifol a oedd yn gysylltiedig ag alcohol a 1,000 o ddigwyddiadau cam-drin domestig wrth Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr yn unig y llynedd.
Mae’r heddlu wedi rhyddhau ei ffigurau diweddaraf wrth iddo baratoi ar gyfer cynnydd yn nifer yr achosion cam-drin domestig ac ymosodiadau difrifol yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.
Mae ymgyrch cyfryngau cymdeithasol wedi’i lansio, sy’n tynnu sylw at effaith ddinistriol y troseddau hyn; gan siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n byw mewn cartrefi lle mae cam-drin yn digwydd i roi’r grym iddynt godi eu llais; ac atgoffa unrhyw un sy’n poeni am ei ymddygiad ar ôl bod yn yfed ble y gall gael cymorth.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler: “Er ein bod ni wedi canolbwyntio ein hymgyrch aeaf ar un math o drosedd yn y blynyddoedd diwethaf, eleni, yr ydym wedi penderfynu ymhelaethu ar ein negeseuon o gwmpas ymosodiadau difrifol lle mae alcohol yn ffactor, yn ogystal â cham-drin domestig, oherwydd, yn anffodus, yr ydym yn gweld cynnydd yn nifer y galwadau sy’n ymwneud â’r ddau dros gyfnod y Nadolig.
“I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r adeg hon o’r flwyddyn llawn hapusrwydd - amser i ddathlu gyda ffrindiau a theulu - ac mae ein swyddogion yn mwynhau gweld pobl mas yn mwynhau eu hunain. Fodd bynnag, mae ein swyddogion hefyd yn debygol o weld y rhai sy’n mynd trwy amseroedd tywyll - wrth iddynt dorri’r newydd fod anwylyn wedi dioddef ymosodiad ffyrnig ar noson mas, neu wrando ar ddioddefydd cam-drin domestig yn esbonio sut mae rhywun yr oedd yn ymddiried ynddo wedi chwalu ei fywyd.
“Drwy’r ymgyrch hon, gobeithiwn y gallwn gynyddu hyder o ran adrodd am ddigwyddiadau cam-drin domestig, a lleihau nifer yr ymosodiadau difrifol drwy gyfeirio’r rhai sy’n cael trafferth rheoli eu hymddygiad ar ôl bod yn yfed at asiantaethau cymorth.”
Fis Rhagfyr diwethaf, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 1,008 adroddiad am gam-drin domestig wrth i’r heddlu gynnal ymgyrch yn annog pobl a oedd yn poeni am eu hunain neu eraill i godi eu llais.
“Gwelsom gynnydd o ran adroddiadau yn 2022 o’u cymharu â’r ddau fis Rhagfyr blaenorol wrth inni wneud ymdrech ddygn i siarad am gam-drin domestig mewn ffordd wahanol i’r arfer,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Butler.
“Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y ceisiadau am wybodaeth drwy Gyfraith Clare hefyd, sef cyfraith sy’n caniatáu i bobl gael gwybod pa un ai a oes gan eu partner hanes o gam-drin domestig. Byddwn ni’n rhannu’r negeseuon hyn eto i gyrraedd pobl a allai fod angen cymorth.”
Rhwng 2015 a 2022,* ar gyfartaledd, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 92 ymosodiad a oedd yn gysylltiedig ag alcohol a achosodd gwir niwed corfforol yn ystod pedair wythnos brig y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Er bod y ffigurau hyn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig COVID-19 o ganlyniad i’r cyfnod clo a chyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol, maent yn awr yn cynyddu.
Derbyniwyd 79 adroddiad am ymosodiadau difrifol lle’r oedd alcohol yn ffactor yn ystod y cyfnod hwn yn 2022 – tri yn fwy nag yn 2019, y flwyddyn olaf cyn Covid.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Anthony Evans: “Er nad ydym wedi cyrraedd lefelau cyn-2020 eto, yr ydym yn gweld cynnydd yn nifer yr ymosodiadau difrifol sy’n gysylltiedig ag alcohol, sy’n duedd sy’n peri pryder, ac yn un yr ydym yn gobeithio rhoi terfyn arni. Yr ydym yn disgwyl gweld mwy o bobl mas yn mwynhau eu hunain gyda’r nos a dros y penwythnos wrth i dymor y Nadolig agosáu, sydd, yn anffodus, yn dueddol o arwain at fwy o adroddiadau am ymosodiadau.
“Ni ellir gwadu bod gan nifer y digwyddiadau treisgar effaith fawr ar adnoddau’r heddlu, ond yn bwysicach, mae pob un o’r ymosodiadau hyn yn effeithio ar fywydau dioddefwyr a’u teuluoedd. Oherwydd hyn, yr ydym yn gofyn i bobl fod yn fwy ymwybodol o’u hymddygiad, gan geisio cymorth os oes angen, a cherdded i ffwrdd os ydynt yn canfod eu hunain mewn sefyllfa o wrthdaro.”
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i adrodd am gam-drin domestig, neu ble i gael cymorth, cliciwch yma: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cam-drin-domestig/cam-drin-domestig/
Am ragor o wybodaeth a chymorth ar gyfer ymdrin â cham-drin sylweddau ac alcohol, ac ymddygiad treisgar, cliciwch yma neu yma.
*Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys y rhai o 2021 pan rwystrodd cyfyngiadau’r cyfnod clo gymdeithasu dros gyfnod y Nadolig.