Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Geredigion wedi’i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar am dreisio merch 12 oed ddwywaith bron i ddegawd yn ôl.
Gwadodd Nathan Griffiths, 33 oed, o Olwg y Castell, Aberteifi, ddau achos o drais, gan roi ei ddioddefydd trwy achos llys chwe diwrnod o hyd yn Llys y Goron Abertawe.
Fodd bynnag, dychwelodd y rheithgor ddedfrydau euog unfrydol ar bob cyfrif ar ôl ychydig dan 5 awr o drafod ddydd Mawrth 18 Gorffennaf.
Yn 2014, ynysodd Griffiths y ferch ifanc ddwywaith drwy ei gwahodd i chwarae gemau fideo cyn ymosod arni.
Roedd Griffiths, a oedd yn 23 ar y pryd, wedi gwirioni arni. Anfonodd anrhegion digroeso ati a negeseuon cyson ar gyfryngau cymdeithasol. Pan rwystrodd y ferch ef, creodd gyfrifon newydd, wedi’u henwi ar ôl y ferch a’i chymdeithion, er mwyn ceisio anfon negeseuon ati.
Ym mis Mawrth 2020, derbyniodd yr heddlu adroddiad am yr achosion o drais, ac fe wnaethant lansio ymchwiliad.
Cyfwelwyd â Griffiths yn wirfoddol ddwywaith. Gwadodd bob honiad yn ei erbyn, gan fynnu mai celwyddau oeddent.
Fodd bynnag, yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan CID Ceredigion, cyhuddwyd Griffiths ym mis Gorffennaf 2022.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Adam Cann, yr Uwch Swyddog Ymchwilio, bod yr achos wedi’i restri am dri diwrnod, ond aeth ymlaen am chwe diwrnod.
“Fe wnaeth Griffiths barhau i honni ei fod yn ddieuog yr holl amser, gan gyflwyno amddiffyniadau funud olaf yr oedd yn rhaid i’r swyddog yn yr achos edrych i mewn iddynt yn gyflym gyda chymorth adrannau arbenigol yn yr heddlu,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad a’r achos llys am eu gwaith caled i sicrhau ein bod ni’n cael cyfiawnder ar gyfer y dioddefydd.”
Roedd Griffiths nôl yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ar 25 Hydref, lle y cafodd ei anfon i’r carchar am chwe blynedd.
“Ni allai unrhyw beth gymryd yr hyn y gorfododd Griffiths arni i ffwrdd, ond gobeithiwn fod y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei galluogi i ddechrau symud ymlaen â’i bywyd.
“Anogwn unrhyw un sydd wedi dioddef ymosodiad tebyg i siarad gyda ni.
“Byddwn yn gwrando arnoch ac yn gweithio gyda chi i gael cyfiawnder ichi, fel yr ydym wedi’i wneud gyda’r ddioddefwraig hon.”