Stamp amser presennol: 23/06/26 19:05:53
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mae sgriniau ystafell llys yn helpu dioddefwr i roi tystiolaeth mewn achos trosedd rhyw

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion
Cyhoeddwyd: 16:40 01/11/2023

Bydd treisiwr a lwyddodd i osgoi cyfiawnder am dros dri degawd yn treulio’r 15 mlynedd nesaf tu ôl i farrau cell, diolch i ddewrder ei ddioddefydd.  

Bydd treisiwr a lwyddodd i osgoi cyfiawnder am dros dri degawd yn treulio’r 15 mlynedd nesaf tu ôl i farrau cell, diolch i ddewrder ei ddioddefydd.  

Dedfrydwyd Evan Jones o Dre-fach Felindre, Llandysul, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 26 Hydref.  

Yn gynharach y mis hwn, cafwyd y dyn 67 oed yn euog o ddau achos o drais a naw ymosodiad rhywiol yn dyddio’n ôl i’r 1980au.

Rhyddfarnwyd ef o achos pellach o drais.  

Yr oeddent i gyd yn ymwneud â’r un dioddefydd, sef merch a oedd rhwng 8 ac 11 oed adeg y troseddau.

Dywedodd Damon Watmough, y Swyddog Ymchwilio, y bu cefnogi’r dioddefydd i roi tystiolaeth yn allweddol i ganlyniad yr achos.

“Yn ddealladwy, ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, roedd meddwl am orfod wynebu ei chamdriniwr yn y llys yn rhywbeth a oedd yn achosi cryn bryder i’r dioddefydd,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Watmough.

“Roedd ei thystiolaeth yn hollbwysig ar gyfer yr achos hwn, ac yn ffodus, roedd modd inni weithio gyda’r llysoedd er mwyn sicrhau ei bod hi wedi’i gwarchod gan sgrin yr holl amser, gan wneud iddi deimlo’n ddiogel wrth siarad am yr hyn ddigwyddodd.  

“Dim ond un o’r mesurau arbennig sydd ar gael i helpu i gefnogi dioddefwyr a thystion i roi tystiolaeth yn ystod achosion trawmatig yw sgriniau, a gallant wneud byd o wahaniaeth.”

Dedfrydwyd Jones gan y Barnwr Geraint Walters i 16 blynedd o garchar, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 15 ohonynt dan glo, gyda blwyddyn bellach ar drwydded.

Cyhoeddwyd Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol hefyd.

Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Watmough: “Mae’n anodd dod ymlaen pan mae pethau wedi’u celu ers cymaint o amser, ond rwy’n gobeithio bod y canlyniad hwn yn dangos i eraill sydd wedi profi cam-drin hanesyddol nad yw byth yn rhy hwyr i godi llais.  

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gasglu tystiolaeth ac adeiladu achos, ni waeth pa mor hir yn ôl y digwyddodd y drosedd, a byddwn yn eich cefnogi drwy’r holl broses.”

Am fanylion ynghylch gwasanaeth cymorth a sut i adrodd am drosedd rywiol, gan gynnwys digwyddiadau nad ydynt yn rhai diweddar, galwch heibio i https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/sut-i-riportio-treisio-ymosodiad-rhywiol-troseddau-rhywiol-eraill/.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd, rhowch wybod i Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.

Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. 

Gwybodaeth bellach:

Mae mesurau arbennig ar gael i dystion diamddiffyn a thystion sy’n cael eu bygwth gyda chytundeb y llys.  

Maent yn cynnwys y cyfle i roi tystiolaeth drwy gyswllt byw (o ystafell arall o fewn y llys, neu o leoliad arall mewn rhai achosion), barnwyr a bargyfreithwyr yn diosg gwallt gosod a gynau, a chymhorthion cyfathrebu i helpu’r rhai sydd ag anableddau.

Sicrheir anhysbysrwydd am oes yn awtomatig ar gyfer dioddefwyr troseddau rhywiol o’r adeg y gwneir honiad.

Mae hyn yn golygu na all y cyfryngau gyhoeddi unrhyw wybodaeth a fyddai’n arwain at eu hadnabod.

Mae troseddau rhywiol yn cynnwys trais, ymosodiad rhywiol a thynnu ffotograff anweddus o blentyn.

Estynnir anhysbysrwydd i ddioddefwyr/dioddefwyr honedig anffurfio organau cenhedlu benywod hefyd, ac mewn rhai achosion, dioddefwyr masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern.

Yr unig eithriad yw lle mae dioddefydd (16 oed neu hŷn) yn dewis ildio’r hawl hwn, neu os yw llys yn gorchymyn bod anhysbysrwydd yn cael ei godi.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.