Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r bachgen 15 oed a arestiwyd yng Nghross Hands yn ystod oriau man bore dydd Iau (Ebrill 25), yn dilyn adroddiadau ynghylch negeseuon bygythiol mewn cysylltiad ag Ysgol Dyffryn Aman, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu gydag amodau sy’n ei atal rhag mynd i mewn i sefydliadau addysgol penodol, neu ardaloedd Dyffryn Aman a Dyffryn Gwendraeth. Mae cyfyngiadau mechnïaeth hefyd yn cynnwys cyrffyw, ac yn ei atal rhag cael mynediad heb oruchwyliaeth at gyfryngau cymdeithasol.
Mae’r ymchwiliad i’r honiadau’n parhau, ac mae Heddlu Dyfed Powys nawr yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai eu cynorthwyo, gan gynnwys sgrin luniau o gyfryngau cymdeithasol, i adrodd am hynny yn y dulliau canlynol:
💬 | Neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol
🖥️ | https://bit.ly/DPPContactOnline
📧 | [email protected]
📞 | 101
Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych amhariad lleferydd anfonwch neges destun at y rhif difrys ar 07811 311 908.
Gallwch hefyd gysylltu’n ddienw â Crimestoppers Cymru drwy ffonio 0800 555 111, neu fynd at crimestoppers-uk.org
Rhowch y cyfeirnod: 392 o Ebrill 24ain.