Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bachgen yn ei arddegau o ardal Cross Hands yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau, a oedd â chyfeiriadau at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.
Cynhaliodd yr heddlu warant yn ei gartref yn dilyn adroddiadau ynghylch negeseuon bygythiol yn cael eu hanfon ar gyfryngau cymdeithasol, a arweiniodd at ei arestio yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Iau, Ebrill 25).
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: “Hoffem ddiolch i’r nifer fawr o aelodau’r cyhoedd a wnaeth riportio’u pryderon ynghylch negeseuon roeddent wedi eu gweld arlein. Caniataodd hyn i ni weithredu’n gyflym wrth weithredu gwarant ac arestio unigolyn a ddrwgdybiwyd.
“Er bod yr ymchwiliad hwn yn cael ei redeg ar wahân i’n hymholiadau i’r digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman ddoe, bydd ein swyddogion yn ceisio sefydlu pa mor gredadwy oedd y bygythiadau, ac a oedd unrhyw gysylltiad rhwng y troseddau honedig.”
Unwaith eto, byddwn yn annog pobl i beidio â dyfalu am yr hyn ddigwyddodd, i beidio â rhannu delweddau neu fideos yn gysylltiedig ag unrhyw un o’r ymchwiliadau, ac i ganiatáu i ni gyflawni ein hymholiadau’n llawn.
“Os yw’r digwyddiadau hyn wedi achosi trallod i chi, neu i’ch plant, ceisiwch gefnogaeth gan asiantaeth briodol.”