Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad difrifol a ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin y bore yma
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Ross Evans:
“Derbyniom alwad ychydig ar ôl 11.20y.b. yn dweud wrthym fod pobl wedi’u hanafu yn dilyn digwyddiad yn yr ysgol.
“Aeth y gwasanaethau brys yno’n syth, a gorfodwyd pawb i aros yn eu dosbarthiadau er diogelwch pawb ar y safle.
“Aed â dau athro a disgybl yn ei arddegau i’r ysbyty gydag anafiadau trywanu. Nid yw eu bywydau yn y fantol.
“Mae merch yn ei harddegau wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae yn nalfa’r heddlu o hyd.
“Mae cyllell wedi’i chasglu fel tystiolaeth.
“Rwy’n ymwybodol bod lluniau a fideos o'r digwyddiad yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn gofyn i hwn gael ei dynnu er mwyn osgoi bod mewn dirmyg llys ac achos gofid i'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
“Gofynnwn i bobl beidio â cheisio dyfalu be ddigwyddodd tra bo ymchwiliad yr heddlu'n mynd rhagddo, a chyfeirio at sianeli swyddogol am ddiweddariadau ffeithiol.
“Bydd pobl leol yn gweld mwy o swyddogion heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i’r ymchwiliad barhau.
“Hoffwn sicrhau rhieni a’r cyhoedd bod y digwyddiad wedi dod i ben, a bod disgyblion bellach wedi gadael yr ysgol.
“Rydym yn gweithio gyda’r ysgol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod cymorth priodol ar gael i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
“Roedd hwn yn ddigwyddiad trallodus iawn, ac mae ein meddyliau gyda’r dioddefwyr, eu teulu a phawb sydd wedi’u heffeithio gan yr hyn sydd wedi digwydd.
“Rydym wedi sefydlu porth pwrpasol, a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai ein helpu gyda’n hymchwiliad ei chyflwyno drwy’r ddolen hon er mwyn helpu’r heddlu i reoli swm yr wybodaeth yr ydym yn ei derbyn.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r gymuned gyfan am ei chefnogaeth a’i hamynedd wrth i’r heddlu, y gwasanaethau brys, Cyngor Sir Gaerfyrddin a’r ysgol weithio drwy’r digwyddiad trallodus hwn heddiw a thros y dyddiau nesaf.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad i roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys drwy’r Porth Cyhoeddus dynodedig.