Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hwyl fawr Dyfed-Powys, bonjour la France!
Mae swyddogion heddlu ar draws Heddlu Dyfed-Powys wedi croesi’r Sianel i ddarparu cyd-gymorth yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd 2024 ym Mharis.
Mae’r heddlu’n cyfrannu at gymorth plismona’r DU yn y gemau yn Ffrainc, gyda phedwar swyddog a chi heddlu’n cael eu hanfon i’r digwyddiad wyth wythnos o hyd.
Mae’r Rhingyll Grace Coburn o’r Drenewydd, Cwnstabl Sophie Webber o Hwlffordd, Cwnstabl Sophie Maliphant o Gaerfyrddin, a Chwnstabl Mike Barnsley, triniwr ci canfod ffrwydron, a’r ci heddlu Doug, i gyd wedi chwarae eu rhan yn yr ymgyrch diogelwch ac ymgysylltu. Maen nhw wedi cynnal patrolau cyffredinol yn y safleoedd Olympaidd allweddol yn Ffrainc ac o’u cwmpas, gan sicrhau diogelwch lleoliadau a gwylwyr.
Mae Cwnstabl Mike Barnsley, sydd ag 11 mlynedd o wasanaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys, wedi’i leoli ar gyrion Paris gyda Doug, ac mae wedi bod yn gweithio gyda’i gymheiriaid o’r DU yn chwilio canolfannau Olympaidd yn ystod y gemau.
Dywedodd: “Mae’n fraint cynrychioli Dyfed-Powys wrth weithio gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill o bob cwr o’r byd yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis.”
Mae’r Rhingyll Grace Coburn wedi bod yn gweithio yn Versailles yn ystod y twrnameintiau golff ochr yn ochr â Chwnstabl Sophie Maliphant a Chwnstabl Sophie Webber, a dywedodd bod ymwelwyr wedi synnu gweld swyddogion o Gymru’n gweithio yn y digwyddiad.
“Mae’n rhaid bod ‘Heddlu’ ymysg y chwiliadau mwyaf poblogaidd ar Google ar hyn o bryd gan fod cymaint o bobl wedi cerdded heibio inni, edrych i weld beth yw ei ystyr ar Google, ac yna wedi dod yn ôl gan ryfeddu ein bod ni o Gymru,” meddai.
“Mae’n brofiad arbennig, ac rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i gael y cyfle hwn.”
Ychwanegodd Cwnstabl Sophie Maliphant: "Rydw i wedi cael profiad gwych yn gweithio yn y Gemau Olympaidd gyda dau gydweithiwr o Heddlu Dyfed-Powys. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o gael gweithio ochr yn ochr â’r Carabinieri o’r Eidal, Gwarchodlu Sifil Sbaen a’r Gendarmerie, yn plismona a phatrolio’r cwrs golff yn ystod y twrnamaint.
"Rwyf wedi creu atgofion arbennig, a byddaf yn ddiolchgar am byth o gael bod yn rhan o’r tîm plismona rhyngwladol ar gyfer Gemau Olympaidd 2024 ym Mharis.”
Tra’u bod nhw yn Ffrainc, mae’r swyddogion hefyd wedi cael y cyfle i gwrdd â gŵyr pwysig, gyda Chwnstabl Barnsley a’r ci heddlu Doug yn cael eu gwahodd i Lysgenhadaeth Prydain a chwrdd â thrinwyr cŵn eraill o Adran Heddlu Efrog Newydd, a’r Rhingyll Coburn, Cwnstabl Webber a Chwnstabl Maliphant yn cwrdd â chyd-gyfarwyddwr diogelwch rhyngwladol.
Roedd disgwyl i 35,000 o swyddogion heddlu a gendarmes gael eu defnyddio bob dydd yn ystod y gemau, a 45,000 ar gyfer y seremoni agoriadol. Roedd swyddogion o’r DU hefyd yn cynnwys cwnstabliaid heddlu gwirfoddol.
Adref, mae gwasanaethau heddlu hefyd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol er mwyn helpu i gefnogi digwyddiadau Olympaidd a Pharalympaidd ac ardaloedd cefnogwyr mewn amrediad o leoliadau.