Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y digwyddiadau anhrefn diweddar a welwyd drwy’r wlad, bydd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal patrolau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys er mwyn cynnig tawelwch meddwl a phresenoldeb amlwg mewn cymunedau.
“Mae gwybodaeth anghywir wedi bod yn sbardun mawr yng nghyswllt y trais ofnadwy ledled y DU, ac mae gan bawb ohonom ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â hyn.
“Talwch sylw arbennig i’r hyn yr ydych yn ei ddarllen, rhannu a chredu o ffynonellau ar-lein.
“Byddwn bob amser yn anelu at hwyluso protest heddychlon, gan ddal y ddysgl yn wastad rhwng hawliau eraill, cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac atal trosedd ac anhrefn – ac anogwn unrhyw un sy’n trefnu protest i gysylltu â ni fel ein bod ni’n medru cydweithio i sicrhau bod unrhyw wrthdystiadau’n cael eu gwneud yn ddiogel a gyda pharch tuag at y gymuned ehangach.
“Nid oes gan ymdrechion i aflonyddu ar ein cymunedau unrhyw le yn ein cymdeithas. Ni fyddwn yn dioddef trais neu gasineb yn erbyn unrhyw un oherwydd ei hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol – neu unrhyw reswm arall o gwbl. Ein neges yw i feddwl ddwywaith cyn gweithredu.
“Rydyn ni eisiau i bobl barhau i fwynhau popeth sydd gan ein pedair sir i’w gynnig – ein traethau hardd, ein hardaloedd gwledig gwych, a’n trefi a phentrefi unigryw – a theimlo’n ddiogel i ymweld â’n hardal.
“Nid oes rheswm gyda ni i ddisgwyl anhrefn yn ein pedair sir, ond mae gennym gynlluniau ar waith i ymdrin ag unrhyw anhrefn pe bai’n digwydd, yn ddigon priodol.
“Byddwn ni’n trin unrhyw ymddygiad treisgar, bygythiol neu afreolus o ddifri, ac yn gweithredu lle bo’n briodol gyda chefnogaeth lawn ein partneriaid yn y maes cyfiawnder troseddol.”
“Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwyf eisiau pwysleisio pwysigrwydd adrodd am unrhyw weithgarwch troseddol wrth Heddlu Dyfed-Powys cyn gynted â phosibl.
“Boed drwy alw 999 mewn argyfwng, 101 pan nad yw’n argyfwng, adrodd ar-lein, neu estyn allan yn ddienw drwy Crimestoppers, mae eich gweithredoedd yn ein helpu i gynnal diogelwch ein cymunedau.
“Cefnogaf yn llwyr ymdrechion penodol gan Heddlu Dyfed-Powys i ddiogelu ein cymunedau, ac anogaf bawb i weithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod ein strydoedd yn parhau’n ddiogel i bawb.
“Mae cadw ein hardaloedd lleol yn ddiogel yn flaenoriaeth bwysig iawn, ac anogaf bawb i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn os oes angen, fel ein bod ni’n medru parhau i wneud Dyfed-Powys yn le diogel i bawb gyda’n gilydd.”
Anogir unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd neu gasineb oherwydd pwy ydyw i adrodd amdano wrth yr heddlu drwy neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol, ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.
Os ydych wedi dioddef trosedd casineb, gall Canolfan Cymorth Casineb Cymru ddarparu cymorth annibynnol a chyfrinachol am ddim i'ch helpu i ymdopi a gwella. Mae eu gwasanaeth ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan neu ffoniwch 0300 3031 982.
Os ydych chi wedi dioddef math arall o drosedd, mae cymorth ar gael hefyd. Mae Goleudy’n cynnig gwasanaeth cymorth personol, emosiynol ac ymarferol i helpu dioddefwyr, teuluoedd a thystion i oroesi trosedd a’u gwneud nhw’n gryfach.
Mae’r gwasanaeth am ddim ac yn gyfrinachol – ni waeth a yw’r drosedd wedi’i adrodd wrth yr heddlu ai peidio, ac ni waeth pryd y digwyddodd. Mae Goleudy hefyd yn darparu gwasanaeth i nodi a rheoli’r lefel perygl ymysg dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau’r effaith ar breswylwyr Dyfed-Powys. Cysylltwch â nhw drwy alw: 0300 1232996, Dydd Llun – Dydd Gwener o 10am-6pm.