Stamp amser presennol: 03/08/2026 16:35:15
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

124 o ymosodiadau difrifol cysylltiedig ag alcohol a 1,200 o ddigwyddiadau cam-drin domestig yn cael eu hadrodd wrth yr heddlu yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 15:15 17/12/2024

Adroddwyd am dros 124 o ymosodiadau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol a bron i 1,200 o ddigwyddiadau cam-drin domestig wrth Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr yn unig y llynedd. 

Mae’r heddlu wedi rhyddhau ei ffigurau diweddaraf wrth iddo baratoi ar gyfer cynnydd yn nifer yr achosion cam-drin domestig ac ymosodiadau difrifol yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Mae ymgyrch cyfryngau cymdeithasol wedi’i lansio, sy’n tynnu sylw at effaith ddinistriol y troseddau hyn; gan siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n byw mewn cartrefi lle mae cam-drin yn digwydd i roi’r grym iddynt godi eu llais; ac atgoffa unrhyw un sy’n poeni am ei ymddygiad ar ôl bod yn yfed ble y gall gael cymorth.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Wayne Bevan: “Wrth inni agosáu at y Nadolig, yr ydym wedi penderfynu ymhelaethu ar ein negeseuon  o gwmpas ymosodiadau difrifol lle mae alcohol yn ffactor, yn ogystal â cham-drin domestig, oherwydd, yn anffodus, yr ydym yn gweld cynnydd yn nifer y galwadau sy’n ymwneud â’r ddau dros gyfnod y Nadolig.

“I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r adeg hon o’r flwyddyn llawn hapusrwydd - amser i ddathlu gyda ffrindiau a theulu - ac mae ein swyddogion yn mwynhau gweld pobl mas yn mwynhau eu hunain. Fodd bynnag, mae ein swyddogion hefyd yn debygol o weld y rhai sy’n mynd trwy amseroedd tywyll - wrth iddynt dorri’r newydd fod anwylyn wedi dioddef ymosodiad ffyrnig ar noson mas, neu wrando ar ddioddefydd cam-drin domestig yn esbonio sut mae rhywun yr oedd yn ymddiried ynddo wedi chwalu ei fywyd.

“Drwy’r ymgyrch hon, gobeithiwn y gallwn gynyddu hyder o ran adrodd am ddigwyddiadau cam-drin domestig, a lleihau nifer yr ymosodiadau difrifol drwy gyfeirio’r rhai sy’n cael trafferth rheoli eu hymddygiad ar ôl bod yn yfed at asiantaethau cymorth.”

Fis Rhagfyr diwethaf, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 1,196 adroddiad am gam-drin domestig wrth i’r heddlu gynnal ymgyrch unwaith y rhagor yn annog pobl a oedd yn poeni am eu hunain neu eraill i godi eu llais.

“Gwelsom gynnydd o ran adroddiadau yn 2022 a 2023 o’u cymharu â’r ddau fis Rhagfyr blaenorol wrth inni wneud ymdrech ddygn i siarad am gam-drin domestig mewn ffordd wahanol i’r arfer,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Bevan.

“Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y ceisiadau am wybodaeth drwy Gyfraith Clare hefyd, sef cyfraith sy’n caniatáu i bobl gael gwybod pa un ai a oes gan eu partner hanes o gam-drin domestig. Byddwn ni’n rhannu’r negeseuon hyn eto i gyrraedd pobl a allai fod angen cymorth.”

Ym mis Rhagfyr, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys gyfanswm o 124 ymosodiad a oedd yn gysylltiedig ag alcohol – mae hyn yn cynnwys ymosodiad cyffredin, ymosodiadau a achosodd gwir niwed corfforol ac ymosodiadau a achosodd niwed corfforol difrifol.  

Roedd 56 o’r rhain yn ymosodiadau difrifol (gwir niwed corfforol a niwed corfforol difrifol) lle’r oedd alcohol yn ffactor, a oedd yn ostyngiad o’r 79 yr adroddwyd amdanynt yn 2022.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Bevan: “Er ein bod ni wedi gweld gostyngiad yn nifer yr ymosodiadau a arweiniodd at anafiadau difrifol fis Rhagfyr diwethaf, roedd y cynnydd yn nifer y digwyddiadau rhwng 2020 a 2022 yn duedd a oedd yn peri pryder, ac yn un yr ydym yn gobeithio rhoi terfyn arni. Yr ydym yn disgwyl gweld mwy o bobl mas yn mwynhau eu hunain gyda’r nos a dros y penwythnos wrth i dymor y Nadolig agosáu, sydd, yn anffodus, yn dueddol o arwain at fwy o adroddiadau am ymosodiadau.

“Ni ellir gwadu bod gan nifer y digwyddiadau treisgar effaith fawr ar adnoddau’r heddlu, ond yn bwysicach, mae pob un o’r ymosodiadau hyn yn effeithio ar fywydau dioddefwyr a’u teuluoedd. Oherwydd hyn, yr ydym yn gofyn i bobl fod yn fwy ymwybodol o’u hymddygiad, gan geisio cymorth os oes angen, a cherdded i ffwrdd os ydynt yn canfod eu hunain mewn sefyllfa o wrthdaro.”

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i adrodd am gam-drin domestig, neu ble i gael cymorth, cliciwch yma: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cam-drin-domestig/cam-drin-domestig/

Am ragor o wybodaeth a chymorth ar gyfer ymdrin â cham-drin sylweddau ac alcohol, ac ymddygiad treisgar, cliciwch yma neu yma.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.