Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i apelio am wybodaeth wedi i unigolyn gael ei arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddio.
Derbyniodd swyddogion alwad gan y gwasanaeth ambiwlans yn gofyn am gymorth mewn cyfeiriad yn Hillcrest Rise ychydig ar ôl 8.20 o’r gloch nos Sadwrn 14 Rhagfyr, lle yr adroddwyd bod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol.
Aethpwyd ag ef i’r ysbyty, ac mae yno o hyd mewn cyflwr sefydlog.
Mae tîm ymchwilio penodol wedi’i sefydlu, ac mae unigolyn wedi’i arestio ar amheuaeth o ymgais i lofruddiaeth mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a allai helpu gyda’u hymholiadau, a hoffent siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a allai helpu i adnabod yr unigolyn cyfrifol.
Cysylltwch os ydych chi’n byw yn ardal Hillcrest neu Lethyr Bryn, ac wedi gweld neu glywed unrhyw ymddygiad amheus nos Sadwrn.
Mae tudalen we benodol wedi’i sefydlu i gasglu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r digwyddiad. Er mwyn adrodd yn uniongyrchol wrth y tîm ymchwilio, cliciwch fan hyn: https://mipp.police.uk/operation/6324A12-PO1
Cewch hefyd:
Adrodd ar-lein | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
E-bostio | [email protected],
Galw | 101
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org
Dyfynnwch gyfeirnod: 306 14 Rhagfyr.