Stamp amser presennol: 15/05/25 17:56:11
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch

Swyddogion mewn dillad cyffredin i weithredu fel ‘timoedd aflonyddu’ yn ystod nosweithiau mas

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:25 16/12/24

Bydd swyddogion heddlu lifrog a mewn dillad cyffredin yn gweithredu fel timoedd aflonyddu er mwyn atal troseddau rhywiol a thrais yn erbyn menywod yn ystod nosweithiau mas yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Bydd prosiect peilot sy’n cael ei gynnal gan Heddlu Dyfed-Powys yn gweld swyddogion mewn dillad cyffredin â hyfforddiant arbenigol yn gweithredu fel gwylwyr yn ystod nosweithiau prysur, gan nodi pobl sy’n ymddangos fel be baent yn cyflwyno perygl i eraill drwy arddangos ymddygiad rhywiol helwriaethol. Bydd y pryderon hyn yn cael eu hadrodd wrth swyddogion heddlu lifrog, a fydd yn camu i mewn er mwyn aflonyddu ar ymddygiad troseddol posibl cyn iddo ddigwydd.

Enw’r cynllun yw Prosiect Vigilant, ac mae’n cael ei dreialu dros penwythnos ym mis Rhagfyr â’r nod o’i gyflwyno ledled yr ardal heddlu yn y flwyddyn newydd. Cyn y lansiad, bydd 12 swyddog o’r tîm plismona rhagweithiol yn derbyn hyfforddiant arsylwi ymddygiadol arbenigol gan gydweithwyr o Heddlu Dyffryn Tafwys i wella eu sgiliau mewn rheoli risg ac annog rhagweithgarwch o ran nodi ymddygiad helwriaethol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dominic Jones: “Mae hwn yn brosiect newydd cyffrous i Heddlu Dyfed-Powys, ac yn un yr ydym yn edrych ymlaen at ei weithredu. Rydyn ni’n hyderus y bydd Prosiect Vigilant yn cael effaith fawr ar helpu i sicrhau a diogelu menywod yn ystod yr economi nos.

“Dylai menywod deimlo’n ddiogel ar noson allan, ac ni ddylent deimlo’r angen i newid eu hymddygiad er mwyn aros yn ddiogel. Drwy gadw llygad allan am ysglyfaethwyr posibl, yn y pen draw, byddwn ni’n newid ymddygiadau’r rhai a allai achosi niwed, a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.

“Tra bod gan Prosiect Vigilant y nod penodol o helpu i sicrhau a diogelu menywod yn ystod yr economi nos, disgwyliwn iddo gael canlyniad cyffredinol o atal pob math o droseddolrwydd.

“Mae tystiolaeth i ddangos bod troseddwyr wedi’u gwasgaru i leoliadau eraill mewn achosion lle mae heddluoedd wedi anfon mwy o swyddogion lifrog i fannau problemus. Yr allwedd fan hyn yw defnyddio swyddogion mewn dillad cyffredin i nodi’r ymddygiad sy’n achosi pryder a rhoi gwybod i’w cydweithwyr, sy’n medru camu i mewn, am unigolion.

“Dyma un o sawl enghraifft o blismona ataliol a ddefnyddir gan Heddlu Dyfed-Powys i helpu i nodi gweithgarwch troseddol posibl ac ymyrryd cyn i droseddu ddigwydd.”

O dan Brosiect Vigilant, bydd swyddogion yn cael eu hanfon i batrolio ardaloedd sy’n arbennig o brysur gyda’r nos i gadw llygad allan am ymddygiad helwriaethol posibl tuag at fenywod. Bydd swyddogion lifrog yn mynd at unrhyw un sy’n dod i’w sylw fel risg posibl ac yn asesu’r sefyllfa, gan gymryd camau priodol os oes angen.  

Byddant yn cael eu lleoli yn seiliedig ar gudd-wybodaeth er mwyn sicrhau bod swyddogion yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi ariannu’r cynllun peilot o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol. Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch menywod yn ein cymunedau, yn arbennig yn ystod cyfnodau prysur gyda’r nos.

“Mae Prosiect Vigilant yn gam pwysig tuag at blismona rhagweithiol ac ataliol, gan anelu i nodi ymddygiad helwriaethol ac aflonyddu arno cyn y gall unrhyw niwed ddigwydd.

“Mae’r fenter hon nid yn unig yn helpu i warchod unigolion, ond mae hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad tuag at greu mannau cyhoeddus mwy diogel ledled ardal Dyfed-Powys.

“Mae’n dda iawn gennyf gefnogi’r cynllun peilot hwn, ac edrychaf ymlaen at ei effaith ar ein cymuned.”

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.