Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu fwy na 3,000 o ymosodiadau yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2024, sy'n cynrychioli cynnydd o naw y cant o flwyddyn i flwyddyn.
Roedd yr ymosodiadau yn cynnwys cicio, slapio, poeri, brathu, curo pen a cham-drin geiriol, ac roeddent yn amrywio o ymosodiad cyffredin i ymosodiadau difrifol ymlaen llaw yn cynnwys niwed corfforol difrifol.
Roedd naw digwyddiad yn ymwneud ag arf.
Gyda’r Nadolig yn agosau, mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond ni allant ymladd dros fywyd rhywun os ydynt yn ymladd dros eu bywyd eu hunain.
“Yn ein hystafell reoli, yn y cyfamser, gallai cam-drin y trinwyr galwadau ar lafar fod yn oedi cyn rhoi cymorth i’r claf.
“Mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn golygu bod mwy o bobl allan yn mwynhau’r hwyl, a chydag yfed alcohol daw cynnydd mewn ymosodiadau corfforol a llafar.
“Mae’r hyn rydym yn gofyn amdano yn syml – mae gweithwyr brys eisiau eich helpu chi, felly cofiwch eu trin â pharch a gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn.”
Cipolwg
Ymosodwyd ar ymarferwyr ambiwlans brys Ian Jones a Gareth Casey gan glaf ym Mhorth Tywyn ym mis Mehefin, cyn iddi droethi yng nghefn eu hambiwlans.
Roedd y cydweithwyr o Sgeti yn trin menyw yr adroddwyd ei bod wedi cwympo yn y stryd a tharo ei phen, cyn iddi ddod yn sarhaus yn eiriol ac yn gorfforol.
Dywedodd Ian: “Roedd hi eisoes wedi taro Gareth yn ystod ein hasesiad cychwynnol, ond aeth mor ymosodol ar y ffordd i’r ysbyty fel bod yn rhaid i ni stopio’r ambiwlans a’i hatal yn gorfforol, er ei diogelwch hi a’n diogelwch ni.
“Dyma’r tro cyntaf a’r unig dro i mi wasgu’r ‘stribed panig’ yn yr ambiwlans fel bod modd recordio popeth ar deledu cylch cyfyng.
“Fe wnaethon ni alw’r heddlu, a gyrhaeddodd o fewn munudau, ond yn y cyfamser, roedd hi’n bygwth troethi yng nghefn yr ambiwlans.
“Yn anffodus, fe wnaeth hi wneud iawn am y bygythiad hwnnw.”
Ychwanegodd Ian, cyn-ddiffoddwr tân gyda’r RAF: “Rwy’n gyn-filwr ac mae gen i brofiad o weithio gydag oedolion ag ymddygiad heriol, ond mae’n dal yn siomedig bob tro rydyn ni’n cael ein hunain yn y sefyllfaoedd hyn.
“A gawson ni ein clwyfo'n farwol? Naddo, ond y pwynt yw ein bod ni yno i helpu rhywun yn eu hawr o angen, a dyna sut y cawsom ein had-dalu - ymosodiad yw ymosodiad.
“Roedden ni’n fwy rhwystredig gan y ffaith bod yn rhaid i’r ambiwlans gael ei dynnu allan o wasanaeth i gael ei lanhau’n drylwyr, a oedd yn golygu nad oedd ar gael i gleifion eraill y gallai eu cyflwr fod yn fywyd neu’n farwolaeth.”
Dywedodd Gareth, a arferai weithio ym maes diogelwch cyn ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans, ei fod wedi dioddef ymosodiad mwy o weithiau yn y swydd hon nag yn ei swydd flaenorol.
“Roedd y claf i’w weld yn iawn gyda ni i ddechrau, ond roedd fel fflic o switsh,” meddai Gareth.
“Wnaeth y dyrnod ddim brifo – ei bygythiadau i ladd wnaeth fy syfrdanu’n fwy.
“Yn anffodus, nid hwn oedd fy ymosodiad cyntaf yn y gwaith.
“Unwaith, ces i fy mrathu a bu’n rhaid i mi gael profion gwaed am chwe mis wedyn i wneud yn siŵr nad oeddwn wedi dal HIV neu Hepatitis.
“Fe effiethiodd arna i yn feddyliol, heb sôn am y straen a roddodd ar fy mherthynas.
“Yn aml rwy’n dod adref a bydd fy machgen naw oed yn gofyn pam fod gennai gleisiau dros fy nghorff i gyd.
“Fel gweithwyr brys, fe ddylen ni allu mynd i’r gwaith a dod adref yn ddianaf.
“Rydw i wedi dod i’w ddisgwyl nawr, ond nid yw’n golygu ei fod yn iawn.”
Fis diwethaf, cafodd Michelle Richards, o Deras y Rheilffordd, Llanelli, ei dedfrydu i dri mis yn y carchar wedi’i ohirio am 18 mis ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i ddau gyhuddiad o ymosod trwy guro gweithiwr brys ac i ddifrod troseddol.
Lansiwyd yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.
Dywedodd Mark Hobrough, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent: “Ni ddylai neb ddioddef ymosodiad o unrhyw fath, ac mae’n destun pryder bod rhai pobl yn credu bod hyn yn ffordd briodol o ymddwyn tuag at berson arall.
“Bydd ein swyddogion, ynghyd â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, yn aml yn delio â phobl ar adegau anodd yn eu bywydau, ond nid yw hynny’n cyfiawnhau’r ymddygiad ymosodol, bygythiol a threisgar y maen nhw’n ei brofi’n aml.
“Byddwn yn cefnogi unrhyw swyddog neu weithiwr gwasanaeth brys sydd wedi profi cam-drin neu drais tra hefyd yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.”
Ychwanegodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru: “Mae effaith unrhyw fath o ymosodiad, yn eiriol neu’n gorfforol, yn hynod niweidiol i’n gweithwyr brys GIG sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu a thrin y rhai sydd â’r angen mwyaf.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron trwy Gydweithrediaeth Gwrth-drais GIG Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud popeth i atal digwyddiadau rhag digwydd, ac i gefnogi unrhyw staff sy’n profi bygythiadau a thrais.”
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Clark Jones-John:
“Mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn aml yn ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol iawn wrth gyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu’r cyhoedd.
“Nid yw dioddef ymosodiad yn ‘rhan o’r swydd’, ac ni ddylid ei ystyried felly.
“Er ein bod ni yn Heddlu Dyfed-Powys wedi gweld rhywfaint o ostyngiad yn nifer cyfartalog yr ymosodiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ymosodiadau ar weithwyr brys yn gyffredinol yn parhau i gynyddu, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.
 hithau’n dymor ewyllys da, parchwch a gwarchodwch ein gweithwyr brys os gwelwch chi’n dda.”
“Gallwn ond wneud ein gwaith yn effeithiol os yw’r gwasanaethau brys a’r cyhoedd yn cydweithio.”
Addunedwch eich cefnogaeth i'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs,