Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn uwch weithiwr cymdeithasol a geisiodd drefnu cwrdd â phlant ar gyfer rhyw, ac a gyfaddefodd ei fod wedi mwynhau ‘anwesu’ merch ifanc, wedi’i garcharu am bum mlynedd.
Pan arestiodd yr heddlu Richard Ford ym mis Medi 2022, daethant o hyd i dros 900 o ddelweddau anweddus o blant ar ei gyfrifiaduron. Datgelodd ymholiadau pellach ei fod hefyd wedi ymosod yn rhywiol ar blentyn dair gwaith.
Daeth y dyn 51 oed, gynt o Sir Benfro, i sylw Heddlu Dyfed-Powys gan ddau swyddog heddlu a oedd yn gweithio ar ymgyrch a oedd yn targedu pobl sy’n gysylltiedig â chamfanteisio’n rhywiol ar-lein. Mae’r ymgyrch yn anfon swyddogion cudd â hyfforddiant ar-lein arbenigol ar amrediad o safleoedd cyfryngau cymdeithasol i adnabod pobl sydd â diddordeb rhywiol mewn plant.
Roedd gwybodaeth a ddarparwyd gan y tîm cudd yn dangos bod Ford wedi bod yn cyfathrebu â swyddogion ar gyfryngau cymdeithasol am 4 – 6 mis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joe Hartnell o Heddlu Dyfed-Powys: “Esgusodd un o’r swyddogion mai dynes â merch 13 oed ydoedd, tra bod y swyddog arall wedi esgus mai dyn gyda mab 11 oed wedi’i fabwysiadu a merch faeth 7 oed ydoedd.
“Gan gredu mai oedolion â diddordeb rhywiol mewn plant oedd y swyddogion, cymerodd Ford ran mewn sgwrs o natur rywiol, gan gofyn am gael cwrdd â’r swyddogion a’u plant â’r bwriad o gyflawni gweithredoedd rhywiol.
“Yn ffodus, roedd Ford mewn cysylltiad â swyddogion cudd ar yr adeg hon, ac nid aelodau o’r cyhoedd â phlant go iawn a allai fod wedi dioddef niwed difrifol. Credwn ei fod wedi bod yn siarad gydag o leiaf un oedolyn arall ar-lein, fodd bynnag, nid yw’n hysbys pwy oedd yr unigolyn hwn.”
Aeth Adran Ymchwilio i Droseddau a Thîm Ymchwilio Ar-lein Heddlu Dyfed-Powys i gartref Ford, lle y gwnaethant atafaelu 19 dyfais ddigidol. Yn ystod ymchwiliad fforensig manwl, daethpwyd o hyd i 913 delwedd anweddus o blant. Roedd dros 250 ohonynt yn ddelweddau categori A, sef y categori mwyaf difrifol.
Sefydlwyd bod bod diddordeb ganddo mewn merched rhwng 7 a 14 oed, a gwnaeth sylwadau am gropio merched.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Hartnell: “Dyma ddyn sydd yn amlwg wedi cael meddyliau troseddol am blant, ac wrth i’n hymholiadau barhau, datgelodd merch ifanc bod Ford wedi ei chyffwrdd yn amhriodol dair gwaith.
“Roedd hi’n ddewr iawn i ddod ymlaen, a rhoddodd wybodaeth werthfawr inni â’n galluogodd i sicrhau cyhuddiadau pellach yn erbyn Ford.”
Cafodd Ford ei gyhuddo â 10 trosedd:
Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 26 Chwefror, lle y cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar.
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Hartnell: “Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir i weithredoedd dyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, ond mewn gwirionedd, nid oedd modd ymddiried ynddo o gwmpas plant.
“Hoffwn ganmol dewrder y dioddefydd am ddod ymlaen a siarad â swyddogion, a chydnabod gwaith adrannau amrywiol ar draws Heddlu Dyfed-Powys o ran casglu tystiolaeth gref i euogfarnu Ford, a chefnogaeth Cyngor Sir Benfro.
“Yr ydym wedi ymrwymo i fynd ar ôl y rhai sy’n benderfynol o achosi niwed i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, a hoffem sicrhau dioddefwyr y byddant yn cael eu trin â thosturi ac urddas pan maen nhw’n dewis adrodd am droseddau wrthym.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro: “Rydym yn ymwybodol bod unigolyn a oedd arfer gweithio i’r cyngor wedi’i ddedfrydu am sawl trosedd rywiol yn erbyn plant.
“Ni chyflawnwyd y troseddau hyn gan yr unigolyn yn ystod ei gyflogaeth gyda’r cyngor, ac fel gydag unrhyw ymchwiliad i gam-drin plant yn rhywiol, cydweithredodd yr awdurdod lleol â’r ymchwiliad troseddol, a chymryd pob cam ar gyfer sicrhau bod unrhyw blant a gafodd eu heffeithio gan droseddau o’r fath yn cael eu hadnabod a’u cefnogi.
“Gofynnir i unrhyw un sy’n poeni am les plentyn gysylltu â’r heddlu ar 101, y tîm asesu gofal plant ar 01437 764551, neu mewn argyfwng, galw 999.”