Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan aeth dynes i’r ysbyty â chlwyf dwfn ar ei choes a honni ei fod wedi’i achosi gan gyllell a syrthiodd, roedd staff meddygol yn poeni bod rhywbeth o’i le.
Roedd y clwyf yn ddifrifol, ac roedd y claf yn ymddangos yn nerfus wrth siarad am yr hyn ddigwyddodd, gan godi amheuon meddygon yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Nid oedd ei chyfrif hi, sef bod cyllell wedi syrthio oddi ar gownter a thorri ei choes, yn cyd-fynd â maint yr anaf yr oedd hi wedi dioddef, a chysylltodd staff gwyliadwrus â’r heddlu.
Ar ôl sawl ymgais i siarad â’r claf ar ei phen ei hun, penderfynodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys arestio ei phartner, Alfie Jack Field.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sam Gregory: “Parhaodd y dioddefydd i roi cyfrif i swyddogion a oedd yn ymddangos fel pe bai wedi’i baratoi ac yn afrealistig o gymharu â’r anaf yr oedd hi wedi dioddef, sef clwyf 5cm o ddyfnder ar dop ei choes.
“Drwy arestio ei phartner, roedd swyddogion cam-drin domestig wedi’u hyfforddi’n arbennig yn medru ymgysylltu â’r dioddefydd ac ennyn ei hyder. Ar ôl peth amser, dechreuodd siarad yn agored a datgelodd bod Alfie Field wedi ei thrywanu â chyllell.
“Roedd ei hanaf mor ddifrifol, roedd angen trallwysiad gwaed arni, ond roedd gormod o ofn dweud rhywbeth arni nes bod Field yn y ddalfa.”
Anogodd ymgysylltu parhaus â’r dioddefydd ei chefnogaeth i barhau ag erlyniad, a chyhuddwyd Field, 22 oed, o glwyfo â bwriad Adran 18 ar 27 Rhagfyr 2023 - y diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Cyfaddefodd Field, o Bontrhydfendigaid, i glwyfo heb fwriad a bygwth rhywun ag arf bygythiol neu eitem â llafn mewn man preifat pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe. Cafodd ei ddedfrydu’r wythnos hon i gyfanswm o ddwy flynedd o garchar, a chyflwynwyd gorchymyn atal pum mlynedd iddo.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gregory: “Roedd yr achos hwn yn ymwneud â dioddefydd bregus ac ofnus iawn. Arhosodd ei phartner gyda hi yn yr ysbyty â’r nod o’i hatal rhag dweud y gwir wrth staff a swyddogion am yr hyn ddigwyddodd.
“Hoffwn ganmol ei chryfder a chydnabod y dewrder a gymerodd iddi ymgysylltu â swyddogion a staff yr ysbyty er mwyn i’r gwir gael ei ddatgelu.
“Mae hon yn enghraifft arbennig o waith amlasiantaeth, gyda’r gefnogaeth iawn yn cael ei rhoi i’r dioddefydd ar yr amser iawn, ac arddangosodd yr ymagwedd dim goddefgarwch a gymerir gan Heddlu Dyfed-Powys tuag at gam-drin domestig.
“Gobeithiwn fod hyn yn rhoi hyder i eraill sydd mewn perthynas gamdriniol neu’n byw mewn cartref lle mae cam-drin yn digwydd i ddod ymlaen, ac yn eu sicrhau y byddant yn cael eu clywed a’u cefnogi drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.”
Ychwanegodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n dda gennyf glywed bod gwyliadwriaeth ein staff clinigol wedi golygu’n bod ni’n medru helpu’r claf hwn, a oedd wedi dioddef anaf difrifol wrth law partner camdriniol.
“Mae ein staff yn gwneud cymaint mwy na thrin anafiadau neu symptomau corfforol. Maen nhw hefyd yn ystyried lles cyffredinol cleifion. Rwy’n falch iawn o’r tîm ym Mronglais ac ar draws y bwrdd iechyd am eu gwaith caled.
“Byddem yn annog unrhyw un sy’n cyrraedd yr ysbyty gydag anafiadau a gafwyd o ganlyniad i gam-drin domestig ddweud wrth ein staff lle bynnag y mae hynny’n bosibl, er ein bod yn deall fod hon yn aml yn sefyllfa anodd a sensitif.
“Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig ynglŷn â sut i gael cyngor a chymorth - https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/cam-drin-domestig/.
“Rydyn ni hefyd wedi penodi Eiriolwr Trais Domestig yn Ysbyty Bronglais yn ddiweddar. Ariennir y swydd drwy elusennau’r GIG, fel rhan o’n hymrwymiad i wella adnabod ac ymateb i gam-drin domestig mewn sefyllfaoedd iechyd.”