Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn ‘cwbl anonest’ wedi ei garcharu ar ôl honni bod yn gynghorydd ariannol a thwyllo’i ffrindiau o gannoedd o filoedd o bunnoedd.
Darbwyllodd Darryl Evans, o Green Court Crescent yn Ninbych-y-pysgod ei ffrindiau a phobl eraill roedd yn eu hadnabod i wneud taliadau uchel eu gwerth y dwedodd y byddai’n eu rhoi mewn cynlluniau buddsoddi ar eu rhan.
Mewn gwirionedd, roedd allan o waith ac yn cyllido ei ffordd o fyw ei hun.
Yn dilyn ymchwiliad trwyadl gan Dîm Trosedd Economaidd Heddlu Dyfed Powys cafodd yr unigolyn 62 oed ei gyhuddo o 26 achos o dwyll, ac un o ladrad.
Y mae nawr wedi ei garcharu am wyth mlynedd.
Meddai rheolwr y Tîm Trosedd Economaidd, Paul Callard: “Roedd yr hyn a wnaeth Evans yn torri ymddiriedaeth ei ffrindiau mewn ffordd ddifrifol. Fe ddwedodd gelwydd am ei broffesiwn er mwyn ennill eu parch a’u hyder, cyn mynd a’u harian ar y cytundeb y byddai’n cael ei fuddsoddi er eu budd.
“Pan roeddent yn meddwl y byddent yn elwa o’r buddsoddiad hwn, roedd Evans yn cadw’r arian ar ei gyfer ei hun – er yn dilyn nifer o ymchwiliadau ariannol does dim tystiolaeth i ddangos ar beth roedd yn gwario’r arian.”
Daeth ymddygiad troseddol Evans i’r golwg yn 2018, pan fethodd ei ddioddefwyr â derbyn unrhyw arian o’u ‘buddsoddiadau’ a chodwyd eu hamheuon.
Wrth i ymholiadau’r heddlu ddatblygu, sefydlwyd bod nifer o bobl wedi eu heffeithio gan ei gynllun anonest, ac arestiwyd Evans ar amheuaeth o dwyll.
Yn dilyn treial hir yn Rhagfyr 2023, cafwyd ef yn euog o 26 achos o dwyll, ac un o ladrad, gyda EAF Barnwr Thomas yn ei ddisgrifio fel ‘un o’r dynion mwyaf anonest’ yr oedd erioed wedi ei gyfarfod.
Dedfrydwyd ef i wyth mlynedd o garchar am achosi colled o £377,000 ar Ionawr 5, 2024.
Canmolodd EAF Barnwr Thomas waith y Tîm Trosedd Economaidd, gan roi cymeradwyaeth uchel i swyddog yr achos Dawn Jones yn benodol am ansawdd ei hymchwiliad.
Dwedodd Mr Callard: “Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth, wedi ei waethygu gan anawsterau wrth weithio gyda nifer o achwynwyr, a’r oedi a achoswyd gan y pandemig Covid-19.
“Fodd bynnag, roedd ein tîm wedi ei ymrwymo i gael cyfiawnder i’r rhai hynny oedd yn gysylltiedig â hyn, ac mae hwn yn ganlyniad rhagorol i gloi’r ymchwiliad.
“Hoffwn adleisio cymeradwyaeth y barnwr o waith Dawn – roedd ei hymdrech ar bob cam yn eithriadol, ac mae hynny wedi sicrhau bod holl ehangder gweithredoedd Evans wedi dod i’r golwg.”