Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddysgwr gyrru wedi’u carcharu ar ôl i’w ‘twpdra a’u balchder’ achosi marwolaeth gofalwraig ‘hardd a charedig’.
Siaradodd teulu Ella Smith yn y llys i esbonio dinistr ac effaith barhaol gweithredoedd Jago Clarke ac Emma Price ar eu bywydau, wrth i’r pâr gael eu dedfrydu am achosi marwolaeth drwy yrru peryglus ac achosi anaf difrifol drwy yrru peryglus.
Clywodd y llys sut yr oedd Clarke yn gyrru car Ella ar 13 Mehefin 2021 pan wrthdarodd â cherbyd a oedd yn dod tuag atynt. Roedd ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys yn medru profi ei fod yn gyrru’n gystadleuol gydag Emma Price wrth iddynt deithio adref o draeth Aberllydan.
Yn drasig, bu farw Ella yn lleoliad y gwrthdrawiad. Aeth ei thad, Adrian, i’r lleoliad fel ymladdwr tân ar ddyletswydd – profiad sydd, yn ei eiriau ef, yn ‘hunllef’ iddo.
Gan ddisgrifio ‘gwên hardd, chwerthin heintus a chalon bur’ ei ferch, siaradodd Adrian yn y llys am y ‘boen anferthol’ mae’n teimlo ar ôl ei cholli.
“Roedd Ella’n 21 oed. Roedd ganddi ei bywyd o’i blaen, ac mae hi wedi colli cymaint,” meddai.
“Bydd hi byth yn cael y cyfle i briodi, ni fyddaf byth yn medru cerdded gyda hi at yr allor, bydd hi byth yn cael y cyfle i edrych yn ysblennydd yn ei ffrog briodas. Ni fydd Ella byth yn dod yn fam, ac ni fyddaf byth yn dad-cu i blant Ella.”
“Rwy’n colli ac yn hiraethu am Ella bob dydd, am gwtsh, am glonc, am sgwrs hap,” ychwanegodd.
“Y peth agosaf rwy’n ei gael nawr yw sgwrs bob bore a nos gyda’i llwch, lle’r ydym yn trafod fy niwrnod ac rwy’n dweud wrthi fy mod i’n ei charu, yn rhoi cusan i’w llun ac yn dweud wrthi mai hi yw’r seren ddisgleiriaf yn yr awyr.”
Clywodd y llys sut y gwelwyd Clarke a Price, 21 oed, yn gwyro eu cerbydau ac yn gyrru’n beryglus ar ôl gadael y traeth. Nid oedd Ella wedi treulio’r diwrnod gyda’r grŵp, ond roedd hi wedi mynd i Aberllydan y noson honno pan ofynnodd Clarke iddi am lifft. Nid yw ei theulu torcalonnus yn gwybod pam yr oedd yn gyrru ei char pan darodd gerbyd arall.
Achosodd y gwrthdrawiad anafiadau difrifol i’r teithiwr yn y car arall hefyd, sef Daisy Buck. Bydd hithau hefyd yn darllen datganiad personol dioddefydd yn y llys.
Nid oedd y cerbyd Citroen glas a oedd yn cael ei yrru gan Price yn rhan o’r gwrthdrawiad, fodd bynnag, profodd ymchwiliad hir gan Heddlu Dyfed-Powys bod y ffordd yr oedd hi’n gyrru’n ddigon iddi gael ei chyhuddo o achosi marwolaeth Ella.
Dywedodd y Rhingyll Sara John o Uned Gwrthdrawiadau Difrifol yr heddlu: “Bu’r ymchwiliad hwn yn hynod gymhleth o’r cychwyn cyntaf. Roedd yn rhaid inni gael data telemateg gan wneuthurwyr yn yr Eidal. Cymerodd y trywydd ymholi hwn lawer o amser, ond roedd yn hollbwysig ar gyfer profi bod Clarke a Price yn gyrru’n gystadleuol, ac yn gyrru’n beryglus adeg y gwrthdrawiad.
Mae’r achos hwn yn enghraifft arall o’r drasiedi mae teuluoedd yn dioddef oherwydd twpdra a balchder llwyr gyrwyr peryglus. Dangosodd Clarke a Price ill dau ddiffyg parch tuag at ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd y diwrnod hwnnw – penderfyniad a gostiodd Ella ei bywyd ac a ddinistriodd bywydau ei theulu. Arweiniodd y gwrthdrawiad at Daisy Buck yn dioddef anafiadau difrifol a fydd yn effeithio arni am weddill ei bywyd hefyd.”
Cafwyd Clarke, o Sunningdale Drive, Hubberston, Aberdaugleddau, a Price, o Holloway, Hwlffordd, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru peryglus ac achosi anaf difrifol drwy yrru peryglus yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe. Cafwyd Price yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru heb drwydded ac yswiriant hefyd.
Heddiw, fe’u dedfrydwyd i deg mlynydd o garchar.
Cyn gosod y ddedfryd, siaradodd mam Ella, Maria Smith, yn uniongyrchol â’r diffynyddion, gan ddweud: “Roeddech chi’n gwybod fawr ddim am Ella, ond fe wyddech y gallech ddylanwadu ar fy merch, a oedd yn garedig, ystyriol a chymwynasgar, a chymryd mantais ohoni.
“Roedd Ella gyda'r ddau ohonoch am tua 10 munud o’i 21 mlynedd o fywyd, ac mae eich gweithredoedd, eich twpdra a’ch balchder wedi ei lladd hi.
“Rydych chi wedi dwyn ein hannwyl ferch a’i dyfodol wrthym, dwyn ei hapusrwydd ac wedi newid ein bywydau mewn ffordd na fyddwn byth yn dod drosti.”