Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynd i’r afael â beicwyr allffordd anghyfreithlon yn ardal Llanelli yn dilyn nifer o gwynion am feicwyr allffordd yn reidio’n anghyfreithlon a di-hid ar lwybrau troed. Mae ardaloedd yr effeithir arnynt yn cynnwys chwarel Penyfan, Llynnoedd Delta, Parc Dŵr Sandy, Trimsaran (ger y cae ras), Felinfoel, a Llwybr Arfordir y Mileniwm.
Gall beicio allffordd achosi difrod helaeth i dir, bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol, a gall defnyddio cerbydau allffordd yn wrthgymdeithasol effeithio’n ehangach ar ein cymdogaethau a dychryn preswylwyr.
Nid yw wedi’i gyfyngu i niwsans sŵn yn unig; gall gyflwyno peryglon sylweddol i fodurwyr eraill a cherddwyr.
Mae beiciau allffordd yn cynnwys amrediad o gerbydau, megis beiciau cwad a beiciau modur, gan gynnwys beiciau sgrialu a beiciau mini.
Mae ein swyddogion Troseddau Gwledig yn gweithio gyda thimoedd plismona bro, Adnoddau Naturiol Cymru, GanBwyll a’r awdurdod lleol i addysgu ac ymgysylltu â phreswylwyr ac ymwelwyr am effaith reidio allffordd gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Robert Evans, Arolygydd Llanelli:
“Gwn fod beiciau allffordd yn achosi niwsans ac yn cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ein cymunedau, ac rydyn ni fel heddlu wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r rhai sy’n achosi problemau.
Hoffem atgoffa aelodau o’r cyhoedd – y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd hyn, ac sy’n teithio yma – na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, gollwng sbwriel, a defnyddio cerbydau allffordd mewn modd di-hid neu anghyfreithlon yn cael ei oddef.
Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau’r amgylchedd hardd nas difethwyd yn ddiogel, cyfrifol a chyfreithlon, ac o ganlyniad, bydd ein swyddogion yn ymateb yn gadarn i unrhyw adroddiadau am ymddygiad anghyfreithlon neu wrthgymdeithasol sy’n difrodi’r amgylchedd neu’n bygwth diogelwch neu fwynhad eraill.”
Ychwanegodd y Rhingyll Plismona Bro Ian Roach:
“Mae’r gudd-wybodaeth a’r adroddiadau a ddarperir gennych chi, ein cymunedau, yn ein galluogi i ddeall ble mae’r ardaloedd problemus, yn ogystal â phwy sy’n gyfrifol.
Ni fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei oddef, ac rydym yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd barhau i’n cefnogi i fynd i’r afael â’r mater hwn drwy roi gwybodaeth inni’n uniongyrchol am feiciau allffordd yn eu hardal.”
Os ydych chi’n gwybod pwy yw’r unigolion hyn, rhowch wybod i ni ar:
Cysyllwtch ar lein, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.