Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi pledio’n euog i gyhuddiadau cyffuriau ar ôl i blanhigion canabis gwerth hyd at £2 filiwn gael eu canfod mewn hen ysgol yn Llandysul.
Cynhaliodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys broses stopio a gwirio ar gar a oedd yn teithio drwy Sir Gaerfyrddin ddydd Gwener 4 Gorffennaf, lle y daethpwyd o hyd i bum cês dillad llawn canabis.
Cafodd dau ddyn eu harestio a sefydlodd ymholiadau bod y pâr wedi teithio o Lundain i Geredigion, lle’r arhoson nhw am gyfnod byr cyn gadael.
Arweiniodd gwybodaeth bellach at warant yn cael ei chynnal mewn hen adeilad ysgol ar Deras Marmor, lle y darganfuwyd tua 1500 o blanhigion canabis mewn cyfnodau tyfiant amrywiol ar draws dau lawr.
Roedd y paratoadau soffistigedig hefyd yn cynnwys nifer o gamerâu TCC wedi’u gosod o gwmpas yr adeilad.
Gwerth y blagur a phlanhigion canabis ar y stryd fyddai hyd at £1,960,000.
Cyhuddwyd Alfred Perkola, 43 oed, o Ealing yn Llundain, ac Adli Gjegjaj, 25 oed, o Salford, o fod yn gysylltiedig â chynhyrchu canabis, gyda Perkola hefyd yn cael ei gyhuddo o feddu â bwriad i erlyn.
Cyfaddefodd y ddau ddyn i’r troseddau wrth ymddangos yn y llys ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rich Lewis: “Roedd yr ymgyrch hon yn llwyddiannus iawn, a welodd cydweithio ardderchog rhwng nifer o adrannau o fewn Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd eraill.
“Yr ydym wedi ymrwymo i wneud ein hardal heddlu’n wrthwynebus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau anghyfreithlon, ac mae ein gwaith dros y penwythnos wedi gweld llawer iawn o ganabis yn cael ei dynnu allan o’r gadwyn gyflenwi.
“Arweiniodd cryfder y dystiolaeth yn erbyn y drwgdybiedigion at bledion euog cynnar, ac rydyn ni nawr yn disgwyl eu dedfrydau.”
Gallwch helpu’r heddlu yn eu gwaith i fynd i’r afael â thyfu a chyflenwi cyffuriau drwy adrodd am unrhyw bryderon neu wybodaeth:
🖥️ | https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
💬 | Neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol
📞 | 101