Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a gynigodd cannoedd o bunnoedd i rywun gynnau tân yn fwriadol ar ei ran wedi ei wedi ei carcharu am 11 mlynedd.
Canfu bod Michael Arundel o Dycroes wedi defnyddio’r ap Telegram i anfon neges at gynulleidfa o dros 1,000 o bobl ym mis Chwefror a mis Ebrill eleni yn gofyn am i dŷ a char gael eu llosgi’n fwriadol.
Pan gafodd ei arestio gan Heddlu Dyfed-Powys, daethpwyd o hyd i gocên gwerth hyd at £62,500 yn ei feddiant.
Daeth y dyn 34 oed o Fynydd-bach i sylw’r heddlu yn dilyn tân car ar ei stryd ar 28 Chwefror 2024.
Dywedodd tystion eu bod wedi gweld dyn yn taflu rhywbeth at y car Audi du cyn iddo ‘ffrwydro’n syth’, a bod y drwgdybyn wedi rhedeg i ffwrdd. Pan ddilynodd perchennog y car ef, adnabyddodd y drwgdybyn fel rhywun a oedd yn gysylltiedig ag Arundel.
Darganfuwyd nes ymlaen bod Arundel wedi anfon negeseuon yn annog llosgi bwriadol gan ddefnyddio’r ap Telegram. Wrth archwilio ei ffôn, daeth yr heddlu o hyd i’r negeseuon canlynol o 28 Chwefror:
Yna, fe wnaeth fygwth ‘hoelio ei sylw’ ar eu tŷ nhw pe bai rhywun yn derbyn yn cynnig ond yn methu â chyflawni’r drosedd, cyn cynyddu ei dâl i £300.
O ganlyniad i’r digwyddiad hwn, dechreuodd yr heddlu fonitro’r ap Telegram, ac ar 26 Ebrill, tynnwyd eu sylw at negeseuon tebyg.
Oherwydd perygl uchel y bygythiadau, anfonodd Heddlu Dyfed-Powys ddau gerbyd â chriw dwbl i’r ardal.
Anfonwyd neges bellach mewn ymateb i bresenoldeb yr heddlu:
Er gwaethaf hyder Arundel, ataliwyd yr ymosodiad gan ymateb prydlon yr heddlu a phresenoldeb amlycach swyddogion yn yr ardal.
Dri diwrnod wedyn, gwelodd swyddogion a oedd ar batrôl yn Llanelli Arundel, a gan wybod bod yr heddlu eisiau ei holi, fe wnaethant stopio wrth ei ymyl yn eu car. Gan sylweddoli mai swyddogion oeddent, rhedodd Arundel i ffwrdd i lawr Heol Plas Marmor, ac fe wrthododd pan ofynnwyd iddo stopio.
Wrth redeg, ceisiodd dynnu bag plastig allan o’i boced â’r bwriad o gael gwared arno, ac fe gwympodd. Daliodd y swyddogion i fyny ag Arundel ac fe wnaethant lwyddo i’w atal.
Fe wnaethant adfer bag plastig a oedd yn cynnwys carreg wen. Sefydlwyd nes ymlaen mai bloc hanner cilo o gocên gwerth hyd at £62,500 ar y stryd ydoedd.
Arestiwyd Arundel ar amheuaeth o feddu ar gyffur dosbarth A â bwriad o gyflenwi, ac o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Canfuwyd bod Arundel wedi archebu ystafell mewn gwesty yn Llanelli, lle yr atafaelwyd ffôn. Chwiliodd swyddogion ei gartref, gan atafaelu dau ffôn symudol a thafol fach, yn ogystal â’i gyfeiriad busnes, lle y gwnaethant atafaelu ffôn, gliniadur, gwasgod lachar a siaced gnu a gyhoeddwyd gan yr heddlu, tafol a bag clir ag olion powdwr gwyn. Atafaelwyd canabis llysieuol a reiffl aer o garej hefyd.
Canfu ymholiadau pellach i’r cyfrif Telegram a oedd yn cael ei ddefnyddio gan Arundel dystiolaeth o gocên, canabis, cetamin ac MDMA yn cael eu cynnig rhwng Awst 2023 ac Ebrill 2024.
Yn y pen draw, cafodd ei gyhuddo â phum achos o gyflenwi cyffuriau dosbarth A, a dau achos o alluogi llosgi bwriadol yn ardal Rhydaman. Diolch i gryfder tystiolaeth yr heddlu yn ei erbyn, plediodd yn euog i bob cyhuddiad yn ei erbyn.
Ar ddydd Gwener 5 Ebrill, ymddangosodd Arundel yn Llys y Goron Abertawe, lle y cafodd ei ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rich Lewis: “Rydyn ni’n fodlon iawn â’r ddedfryd a roddwyd i Arundel heddiw. Roedd hwn yn ymchwiliad manwl iawn gydag amgylchiadau anarferol o ran bod y diffynnydd yn annog eraill i gyflawni troseddau ar ei ran.
“Roedd y dystiolaeth a gasglwyd mor gryf fel bod Arundel wedi cyfaddef i’r bum drosedd, pan oedd yn amlwg wedi meddwl y gallai osgoi’r cyfrifoldeb am droseddu pe bai rhywun arall yn cyflawni’r drosedd o losgi bwriadol.
“Gallai’r digwyddiadau hyn fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol, ac mae’n ffodus iawn na chafodd neb ei anafu gan ymddygiad di-hid Arundel.”