Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Landrindod wedi cael gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl dros dro o ganlyniad i’w hymddygiad o amgylch plant.
Cafodd achos am Lisa Meredith, o Ffordd Trefonen, ei glywed yn Llys Ynadon Llandrindod yr wythnos ddiwethaf. Er na wnaeth y fenyw 42 oed ymddangos yn y llys, cafodd gorchymyn dros dro ei ganiatáu ar sail tystiolaeth a ddarparwyd gan Heddlu Dyfed-Powys.
Hwn oedd y gorchymyn cyntaf o’i fath a roddwyd i unrhyw un yn ardal yr Heddlu.
Clywodd y llys fod Meredith yn cael ei hystyried yn risg i bobl ifanc yn y gymuned, gyda phryder arbennig y gallai fod yn defnyddio neu’n ecsbloetio plant i gludo cyffuriau rhwng trefi.
Mewn datganiad, dywedodd y swyddog cam-fanteisio’n droseddol ar blant, PC Barrett, a arweiniodd yr achos: “Mae amheuaeth bod Meredith yn ecsbloetio pobl ifanc trwy ddechrau perthynas â nhw a’u cyflwyno i’r byd cyffuriau.
“Mae yna nifer o adroddiadau cudd-wybodaeth sy’n nodi bod pobl ifanc yn ymweld â’r cyfeiriad, a bod Meredith yn teithio gyda phobl ifanc i drefi eraill ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae rhieni hefyd wedi codi pryderon bod Meredith yn defnyddio eu plant i gludo cyffuriau rhwng cyfeiriadau.
“Mae gan Meredith gylch mawr o gymdeithion sydd i gyd yn gysylltiedig trwy ddefnyddio a chyflenwi cyffuriau, ac mae’r heddlu’n gwybod am bob un ohonynt. Mae hyn yn cynyddu’r risg i bobl ifanc o gymdeithasu â hi.”
Clywodd y llys fod Meredith wedi’i darganfod fel un o’r prif gysylltiadau mewn cyflenwad llinell gyffuriau weithredol yr amharwyd arni yn gynharach eleni. Amlygwyd hefyd ei bod wedi cael rhybuddion cipio plant mewn perthynas â phedwar plentyn o ganlyniad i’r risg y credir iddi ei pheri iddynt. Mae’r rhybuddion hyn wedi’u torri, gan arwain at gais am orchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl.
Ychwanegodd PC Barrett: “Mae swyddogion wedi ceisio diogelu’r rhai sydd wedi’u nodi mewn perygl gan Meredith ac wedi cyflwyno rhybuddion cipio plant, fodd bynnag mae ei hagwedd a’i diystyrwch llwyr o’r broses hon yn ychwanegu at ein pryder.
“Nid yw’n gwerthfawrogi’r risg y mae’n ei pheri i’r plant hyn yn y gymuned.”
Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, a lefel y pryder a ddangoswyd, rhoddodd y llys orchymyn dros dro, sef y cyntaf i Heddlu Dyfed-Powys. Bydd cais am orchymyn llawn yn cael ei wneud pan ddaw’r gorchymyn dros dro i ben fis nesaf.
Mae’r gorchymyn yn gwahardd Meredith rhag cael unrhyw gyswllt neu gyfathrebu heb oruchwyliaeth ag unrhyw blentyn o dan 18 oed, ac eithrio ei theulu agos neu lle nad yw’n rhesymol y gellir ei osgoi yn ystod ei bywyd bob dydd; trefnu neu hwyluso teithio i unrhyw unigolyn o dan 18 oed, ac eithrio ei theulu agos; trefnu neu ddarparu llety i unrhyw unigolyn o dan 18 oed, ac eithrio aelodau o’i theulu agos; darparu ffôn symudol neu ddyfais gyfathrebu arall i unrhyw unigolyn o dan 18 oed, ac eithrio ei theulu agos; bod yn berchen ar ffôn symudol neu gerdyn SIM neu’n meddu arno oni bai ei fod wedi’i gofrestru gyda’i darparwr gwasanaeth yn ei henw llawn a’i chyfeiriad presennol, a’i bod yn hysbysu’r heddlu ei bod yn meddu ar y ddyfais o fewn tri diwrnod.
Ychwanegodd PC Jamie Morris, swyddog gorchmynion sifil yr Heddlu: “Dyma’r gorchymyn risg caethwasiaeth a masnachu pobl cyntaf i Heddlu Dyfed-Powys ei gyflwyno i unigolyn, a’n gobaith yw y bydd yn lleihau’r risg ar hyn o bryd i blant sydd mewn cysylltiad â Meredith.
“Trwy roi gorchymyn yn ei le rydym yn cyfyngu’n ddifrifol ar y cyswllt y caniateir i Meredith ei gael â phobl ifanc, gyda’r bygythiad o ddedfryd o garchar os yw’r gorchymyn yn cael ei dorri.”