Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pump o bobl wedi’u canfod yn euog o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis, neu wedi cyfaddef i hyn, wrth i Heddlu Dyfed-Powys barhau â’i ymdrechion i chwalu gangiau troseddu trefnedig.
Atafaelodd swyddogion gocên â gwerth stryd o dros £400,000 gan aelodau gang, a newidiodd dactegau’n gyson er mwyn osgoi arést.
Mae chwe diffynnydd wedi ymddangos yn y llys yng ngham diweddaraf Ymgyrch Burleigh Heddlu Dyfed-Powys, a geisiai aflonyddu ar fasnachu cyffuriau dosbarth A a B a’u cyflenwi yn Aberystwyth, gyda phawb ond un yn cyfaddef i’w cyhuddiadau neu’n cael eu canfod yn euog gan reithgor.
Mae hyn yn dwyn cyfanswm y bobl sy’n disgwyl dedfryd o dan yr ymgyrch i 15.
Clywodd y llys fod swyddogion o Dîm Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig Heddlu Dyfed-Powys a Thîm Plismona Achosion Difrifol Ceredigion wedi arwain yr ymchwiliad i’r grŵp troseddu trefnedig, a ddisgrifiwyd fel ymchwiliad ‘soffistigedig wedi’i drefnu’n dda sy’n esblygu.’
Dywedodd y Ditectif Ringyll Steven Jones: “Roedd y cynllwyn hwn yn gweithredu ar fodel Llinellau Cyffuriau, lle mae cyffuriau a reolir yn cael eu masnachu i mewn i dref wledig lai o ddinas fwy, ac mae’r ymgyrch yn cael ei reoli gan un neu fwy o ‘linellau cyffuriau’.
“Yn yr achos hwn, roedd cyfanswm o bedwar llinell yn rheoli’r cyflenwad o gocên a chanabis yn Aberystwyth.
“Esblygodd y cynllwynwyr eu gweithredoedd yn gyson er mwyn llesteirio’r awdurdodau ac osgoi cael eu cipio.”
Ceiswyr lloches oedd y rhan fwyaf o aelodau’r grŵp troseddu trefnedig. Daeth Toana Ahmad a dyn arall, sydd heb ei ddal eto, â nhw i Aberystwyth i’r union bwrpas o werthu cyffuriau. Roedd y llinellau cyffuriau wedi’u lleoli yn Abertawe i gychwyn, ac mewn ardaloedd o Birmingham nes ymlaen.
Nodwyd tri eiddo – ar Ffordd y Môr, Ffordd Alexandra a Pharc Craig Glais – yn gynnar yn yr ymchwiliad fel eiddo a oedd yn cael eu defnyddio i gartrefu aelodau’r grŵp troseddu trefnedig yn Aberystwyth. Adenillwyd symiau sylweddol o arian parod, cyffuriau a reolir ac arfau o’r eiddo hyn, ac wrth y bobl y daethpwyd o hyd iddynt tu mewn.
Pan wnaed arestiadau, newidiodd y gang ei thactegau. Dechreuodd cyffuriau gael eu cyflenwi o gerbydau, ac arhosodd aelodau’r grŵp troseddu trefnedig mewn gwestai er mwyn osgoi cael eu canfod.
Ychwanegodd y Ditectif Ringyll Jones: “Cyflogwyd cludwyr ag enw da i gludo cyffuriau i Aberystwyth ac arian yn ôl i Birmingham neu Abertawe. Defnyddiwyd nifer o gerbydau, gan gynnwys tacsis, wrth i aelodau’r gang geisio osgoi cael eu dal ar hyd y ffordd, tra bod trenau hefyd wedi’u defnyddio pan stopiwyd ceir cludwyr gan swyddogion.”
Ym mis Mehefin 2023, stopiwyd dau gerbyd a oedd yn teithio o Orllewin Canolbarth Lloegr tuag at Aberystwyth gan yr heddlu ar ddau ddiwrnod yn olynol. Daethpwyd o hyd i hosan ddu yn injan y car cyntaf. Canfu bod yr hosan hon yn cynnwys 82 gram o gocên purdeb uwch wedi’i rannu rhwng 169 bag selio plastig.
Davinder Singh, a blediodd yn euog yn flaenorol i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a dosbarth B, oedd gyrrwr yr ail gerbyd, sef tacsi. Gwelwyd bag plastig glas yn syrthio o’i siorts. Roedd y bag yn cynnwys 81 gram o gocên purdeb uwch wedi’i rannu rhwng 167 bag selio.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jones: “Ar y sail bod y symiau o gocên a gludwyd rhwng y 37 cludwr yn ystod cyfnod y cynllwyn yn debyg, byddai dros 3 cilogram o gocên wedi’i gludo i Aberystwyth o Birmingham.
“Mae hyn yn cyfateb i gyffuriau dosbarth A â gwerth posibl o dros £308,950 ar y stryd. Yn ogystal â hyn, atafaelwyd cyffuriau dosbarth A â gwerth posibl o £103,445 ar y stryd wrth unigolion ac o gyfeiriadau, ynghyd ag £11,687 mewn arian parod.
“Cynorthwyodd nifer o dimoedd ac adrannau ar draws Heddlu Dyfed-Powys i chwalu’r grŵp troseddu trefnedig o’r brig i’r gwaelod, o ddadansoddwyr, gweithredwyr TCC a thimoedd plismona achosion difrifol, i’r Swyddfa Awdurdodi Ganolog, yr Uned Cymorth Technegol, y Tîm Troseddau Economaidd a Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu.
“Mae eu hymrwymiad a’u hymdrechion diflino wedi helpu i wneud Aberystwyth yn le mwy diogel i fyw, heb ofni bod cyffuriau ar gael yn rhwydd ar y stryd, a’r niwed a achosir gan hyn.”
Ar ôl achos llys saith wythnos o hyd yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach eleni, canfu’r tri diffynnydd canlynol yn euog am eu rhannau yn y cynllwyn:
Methodd y rheithgor â dod i benderfyniad ynghylch dau ddiffynnydd yn ystod yr achos llys cynharach. Roeddent yn destun ail achos llys a gychwynnodd ar 1 Gorffennaf. Mae’r canlyniadau fel a ganlyn:
Safodd Karwan Karim, 39 oed, o 125 Stryd Griffith John, Abertawe, ei brawf hefyd, a phlediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B a reolir ar y trydydd diwrnod.
Yn ogystal â’r aelodau o’r grŵp troseddu trefnedig a gafwyd yn euog yn ystod yr achosion llys diweddaraf, roedd y canlynol eisoes wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B o dan Ymgyrch Burleigh:
Roedd y canlynol eisoes wedi pledio’n euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A: