Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 3 Mehefin 2024, cynhaliwyd gwrandawiad camymddwyn carlam ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chyn Gwnstabl Heddlu, Christian Stobbs, a arferai weithio yn Sir Gaerfyrddin. Ymddiswyddodd Mr Stobbs o’r heddlu pan oedd yn destun ymchwiliad am droseddau camddefnyddio cyfrifiaduron. Cyfaddefodd Mr Stobbs i’r troseddau a derbyniodd rybudd.
Cychwynnwyd achos cyn-swyddog ar y rhagosodiad pe bai Mr Stobbs yn dal i wasanaethu yna byddai’r ymddygiad dan sylw wedi cyfiawnhau ei ddiswyddo o’r Heddlu a’i ychwanegu at restr y Coleg Plismona o swyddogion sydd wedi eu gwahardd, a fyddai’n ei atal rhag mynd yn ôl i wasanaeth yr heddlu neu wasanaeth gorfodi’r gyfraith penodedig.
Cadeiriodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis y gwrandawiad carlam, ac yn absenoldeb Mr Stobbs, penderfynodd fod ymddygiad y cyn-swyddog yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, pe bai’n dal i wasanaethu y byddai wedi cael ei ddiswyddo o’r Heddlu, ac y dylai nawr gael ei ychwanegu at restr y Coleg Plismona o swyddogion sydd wedi eu gwahardd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Huw Davies o Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys:
"Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau uchaf o onestrwydd ac unplygrwydd gan bob swyddog, a bydd unrhyw doriadau honedig o’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn cael eu trin yn briodol."