Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a anfonodd 80 neges Facebook i fenyw dros 14 diwrnod, cyn cysylltu â’i ffrindiau a’i theulu er mwyn ceisio darganfod lle’r oedd yn byw wedi cael dedfryd ohiriedig.
Plediodd Jamie Norman, o Hwlffordd yn euog i stelcian menyw ar ôl ymgyrch bedair wythnos yn anfon negeseuon ati hi, ei chyn-bartner, a’i ffrindiau.
Arweiniodd gweithredoedd yr unigolyn 39 oed ato’n curo ar bob drws ar ystâd wrth chwilio’n gorfforol am y dioddefydd, wedi iddo wneud ei adroddiad ei hun i’r heddlu bod ei ffrindiau hi’n ‘ei chadw hi rhagddo’.
Esboniodd swyddog Heddlu Dyfed Powys, y Ditectif Gwnstabl Gmerek fod yr unigolyn dan amheuaeth wedi ei arestio’n ddi-oed ar Fai 28 oherwydd natur ddifrifol ei droseddu a oedd yn achos pryder.
“Roedd hwn yn ymchwiliad eithaf anghyffredin gan fod y troseddwr ei hun wedi cysylltu â’r heddlu pan honnodd fod ffrindiau’r dioddefydd yn ei hatal hi rhag bod mewn cysylltiad gydag ef,” dywedodd.
“Dilynwyd hyn gan ail alwad yn ddiweddarach yr un diwrnod, pan ddwedodd ei fod wedi cael gwybodaeth bellach ynghylch cyfeiriad y dioddefydd, a’i fod yn mynd i guro ar bob drws yn yr ardal hyd nes ei fod yn dod o hyd iddi.
“Roedd hwn yn amlwg yn ymddygiad a oedd yn achosi pryder, fodd bynnag ar yr adeg honno nid oeddem yn ymwybodol o enbydrwydd ei ymddygiad tuag at y dioddefydd.”
Derbyniodd atebwyr galwadau ystafell reoli’r heddlu adroddiad o ddyn yn mynd i dai ar ystâd yn Hwlffordd yn ystod oriau mân Mai 28, oriau yn unig wedi i’r unigolyn dan amheuaeth ei hun gysylltu â’r heddlu.
Dangosodd ffilm teledu cylch cyfyng mai Norman ydoedd.
Wrth i ymholiadau barhau, sefydlwyd yn ogystal ag anfon 80 neges at y dioddefydd – y mwyafrif ohonynt wedi eu hanfon dros un diwrnod – ei fod wedi cysylltu â’i ffrindiau i ofyn a ddylai ei ‘chanlyn’ hi, ac roedd hyd yn oed wedi dweud wrth ei mam ei fod eisiau ei phriodi hi.
“Roedd llawer iawn o dystiolaeth i’w ystyried, o ganlyniad i nifer y negeseuon yr oedd wedi anfon at y dioddefydd ac at eraill,” dywedodd Gmerek.
“Roedd y dystiolaeth yn dangos obsesiwn dwys gan gynnwys elfennau rhywiol a bygythiadau ymhlyg, ynghyd â’r pedwar ymddygiad stelcian: sefydlog, obsesiynol, digroeso ac ailadroddus.
“Awdurdodwyd cyhuddiad o stelcian yn cynnwys braw neu drallod difrifol.”
Cyfaddefodd Norman i’r cyhuddiad ac ymddangosodd yn y llys ar Fehefin 18fed, lle dedfrydwyd ef i chwe mis o garchar, wedi eu gohirio am 18 mis. Rhaid iddo gyflawni 250 awr o waith di-dâl , a chwblhau gofyniad gweithgarwch adsefydlu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gmerek: “Gall stelcian ac aflonyddu achosi trallod difrifol i ddioddefwyr, gan eu gadael yn edrych dros eu hysgwydd ac yn amau eu diogelwch.
“Mynegodd dioddefydd Norman deimladau o orbryder ac ofn, ac roedd wedi teimlo gorfodaeth i newid elfennau o’i ffordd o fyw o ganlyniad i’w ymddygiad ef.
“Cam dewr iawn yw adrodd am ymddygiad stelcian i’r heddlu, a hoffwn gymeradwyo’r dioddefydd yn yr achos hwn am geisio cefnogaeth.”
Os oes angen cefnogaeth arnoch chi o ganlyniad i stelcian neu aflonyddu, ewch at https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/