Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi’u canfod yn euog mewn cysylltiad â llofruddiaeth Ashley Sarsero, 26 oed.
Mae James Alan Smith, 35 oed, wedi’i ganfod yn euog o lofruddiaeth, a Steven George Morgan, 36 oed, o gynorthwyo troseddwr, yn dilyn achos yn Llys y Goron Abertawe.
Clywodd y llys bod Heddlu Dyfed-Powys wedi’i alw i Faestir, Llanelli, am 4.30y.b. ar 10 Medi 2023. Yn anffodus, cyhoeddwyd bod Ashley Sarsero (sydd yn y llun) yn farw yn y fan a’r lle ymhen ychydig o amser wedyn.
Buan iawn y cafodd Smith a Morgan eu harestio a’u cyhuddo mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth. Cafwyd y ddau’n euog gan reithgor yn dilyn achos llys tair wythnos o hyd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Wayne Bevan: “Fel sawl un arall, ni chefais y fraint o adnabod Ashley na chwrdd ag ef, ac er fy mod i’n fodlon iawn ar ganlyniad heddiw, ni fydd yn fawr o gysur i’w deulu, ei bartner a’i grŵp mawr o ffrindiau. Mae ein cydymdeimladau dwysaf yn parhau i fod gyda nhw.
“Arweiniodd yr amgylchiadau o gwmpas marwolaeth Ashley at ymchwiliad dwys, hynod broffesiynol ac effeithiol, a hoffwn ddiolch i dimoedd ar draws Heddlu Dyfed-Powys am y gwaith caled a’r ymroddiad maen nhw wedi dangos.
“Hoffwn ddiolch i deulu Ashley, ei bartner a’r gymuned ehangach am eu dewrder a’u cymorth hyd at ddedfryd heddiw, yn dilyn y digwyddiad trawmatig a’r ymchwiliad wedi hynny.”
“Rydyn ni’n anelu i weithio gyda chymunedau i rwystro ac atal unigolion rhag cario unrhyw gyllell neu lafn ar ein strydoedd, a byddwn ni’n parhau i dargedu ac erlyn pawb sy’n parhau i wneud hynny.”
Ychwanegodd Claire Richards, mam Ashley: “Y noson cafodd fy mab, Ashley, ei lofruddio, bu farw fy nheulu a minnau gydag ef. Roedd ei lofruddiaeth yn weithred o anfad pur.
“Roedd Ashley’n ddyn ifanc caredig a thalentog, a chafodd ei gymryd oddi wrthym yn greulon ac annisgwyl. Mae colli plentyn o dan unrhyw amgylchiadau’n drasig, ond mae colli plentyn i weithred dreisiol mor farbaraidd heb unrhyw esboniad neu reswm yn gwbl dorcalonnus.
“Mae llofruddiaeth Ashley wedi newid bywydau teulu a ffrindiau a oedd yn adnabod ysbryd bywiog, cryf ‘Ash’ yn llwyr. Rydyn ni’n falch bod y dynion hyn wedi’u dyfarnu’n euog a bod cyfiawnder wedi cael ei gyflawni, fodd bynnag, ni fydd unrhyw beth yn cymryd lle Ashley ni.”
Bydd y ddau ddyn yn cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe fory.