Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae pump o bobl wedi’u carcharu am eu rhan nhw mewn cyflenwi heroin a chrac cocên yn Aberystwyth – er na atafaelodd yr heddlu unrhyw sylweddau anghyfreithlon.
Roedd tîm ymchwilio i gyffuriau arbenigol Heddlu Dyfed-Powys yn medru profi bod llinell gyffuriau’n rhedeg rhwng Wolverhampton a Cheredigion, diolch i ddadansoddiad manwl o ddata ffôn a ddefnyddiwyd gan giang troseddu trefnedig.
Dechreuodd yr ymgyrch - sydd wedi’i henwi’n Ymgyrch Knoxhill - ym mis Mehefin 2020, pan alwyd yr heddlu i aflonyddwch mewn fflat yn Aberystwyth a dod o hyd i ddau fachgen yn eu harddegau. Roedd yr heddlu wedi cael gwybod bod un o’r bechgyn hyn ar goll.
Sefydlwyd bod aelodau o giang a oedd yn gweithredu o ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr wedi meddiannu cyfeiriad defnyddiwr heroin lleol, sef Glenn Williams. Anfonwyd y ddau fachgen yn eu harddegau – Kyran Hill a Teejay Marks, a oedd yn 16 oed ar y pryd – i fyw yno, gan weithredu fel ‘rhedwyr’ ar gyfer aelodau giang a oedd yn uwch i fyny’r gadwyn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Steve Jones o Dîm Plismona Achosion Difrifol Ceredigion: “Term a ddefnyddir pan mae giangiau cyffuriau’n meddiannu cartref unigolyn bregus er mwyn sefydlu canolfan ar gyfer gwerthu, cadw neu gymryd cyffuriau anghyfreithlon yw cogio.
“Yn yr achos hwn, fe wnaethant dargedu Glenn Williams, gan ei ddarbwyllo i gytuno i’w gadael i fyw yn ei gartref drwy gynnig heroin iddo ar gyfer ei ddefnydd ei hun. Yn gyfnewid am hyn, dywedwyd wrtho am eu ‘cadw i mewn’ a’u ‘cadw’n ddiogel’ tra’u bod nhw’n gwerthu cyffuriau o’i gartref.
“Dywedodd wrth swyddogion y byddai cyffuriau allan gyda nhw ar y bwrdd yn ei gartref – roedd tystiolaeth a gasglwyd o’i gartref nes ymlaen yn cadarnhau hyn – a’u bod nhw wedi aros tan iddynt redeg allan o gyffuriau. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaethant ei ddefnyddio fel rhedwr ar gyfer deliau a drefnwyd gan reolwr uwch.”
Pan gyrhaeddodd swyddogion fflat Williams ar 19 Mehefin, daethant o hyd i’r deiliad ar y stryd. Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi’i ‘gamfanteisio’ a’i fod eisiau Hill a Marks allan o’i fflat.
“Roedd swyddogion wedi gweld Williams y noson gynt yn cwrdd â dyn o’r enw Akeel Whistance,” dywedodd y Ditectif Ringyll Jones.
“Credwn fod ein presenoldeb wedi codi ofn arno a’i fod wedi ymateb drwy daflu pecyn o gyffuriau dros wal. Pan ddychwelodd i’r fflat yn waglaw, cyhuddodd y dynion eraill ef o naill ai ysmygu’r cyffuriau, a oedd werth £2000, y noson honno, neu eu cuddio rywle iddo’i hun.
“Yr aflonyddwch hwn a arweiniodd at yr heddlu’n cael eu galw.”
Wrth gael eu cwestiynu gan swyddogion, honnodd Hill a Marks eu bod nhw wedi cael eu herwgipio a’u cymryd i Aberystwyth. Fodd bynnag, yn ôl Williams, 51 oed, roeddent wedi symud i mewn er mwyn cyflenwi cyffuriau.
Roedd archwiliadau o’r bechgyn ifainc yn eu harddegau’n dangos bod y pâr wedi teithio i Aberystwyth yng nghwmni Kalvin Riley, 23 oed, a Frank Keli, 26 oed, ar 15 Mehefin 2020. Yn ystod eu taith, gwnaed nifer o alwadau ffôn byr o un rhif i Williams a Marks, cyn i neges destun a oedd yn darllen ‘Byw’r gorau o ddau 24/7’ gael ei hanfon at 15 rhif gwahanol mewn 58 eiliad.
Profodd dadansoddi digidol pellach fod Riley a Keli wedi teithio i Wolverhampton y diwrnod canlynol, tra bod Hills a Marks wedi anfon ffotograffau o arian a bagiau clo sip yn cynnwys lapiadau o sylweddau gwyn a brown at Snapchat.
Roedd y geiriau ‘bwriad i gyflenwi cyffuriau dosbarth A’ wedi’u troshaenu ar un ffotograff, a gellid gweld a chlywed y pâr yn cyfri arian a chwerthin mewn fideos. Daethpwyd o hyd i fideos pellach ar ffôn o eiddo Marks yn dangos sgyrsiau rhwng y pâr a Williams mewn perthynas â chyflenwi cyffuriau.
Pan archwiliodd swyddogion ffôn Whistance, canfuwyd ei fod wedi hwyluso trosglwyddo arian a enillwyd drwy gyflenwi cyffuriau yn ôl i’r grŵp, ac wedi ailgyflenwi ‘rhedwyr’ â chyffuriau.
Dywedodd arbenigwr cyffuriau bod natur y negeseuon y daethpwyd o hyd iddynt ar ffonau’r drwgdybiedigion yn gyffredin mewn achosion cyflenwi cyffuriau.
Drwy ddefnyddio data a gafwyd o ddyfeisiau digidol, ynghyd â data galwadau cysylltiedig, casglwyd digon o dystiolaeth i brofi’r drosedd o gynllwynio i gyflenwi heroin a chrac cocên heb atafaelu cyffuriau a reolir. Cyhuddwyd chwe aelod y giang trefnedig o droseddau’n ymwneud â chyffuriau, ac fe wnaethant bledio’n euog i’r troseddau hyn.
Fe wnaethant ymddangos yn Llys y Goron Abertawe rhwng 19 Ionawr a 28 Chwefror 2024, a chawsant eu dedfrydu fel a ganlyn:

Frank Keli, o Ashbourne Road, Wolverhampton: Tair blynedd o garchar am gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.

Kalvin Riley, o Millwalk Drive, Wolverhampton: Tair blynedd a thri mis am gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.

Akeel Whistance, o Lanfihangel-y-Creuddyn: Dwy flynedd a hanner o garchar am gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.

Kyran Lee Hill, o Three Tuns Lane, Wolverhampton: 12 mis mewn sefydliad ar gyfer Troseddwyr Ifainc am gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.

Teejay Marks, o Hamilton Gardens, Wolverhampton: 12 mis mewn sefydliad ar gyfer Troseddwyr Ifainc am gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.
Glen Lewis Williams, o Frynrheidol, Aberystwyth: Dedfryd ohiriedig o 18 mis am gynllwynio i gyflenwi crac cocên a heroin.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jones: “Mae hwn yn ganlyniad arbennig gan ein bod ni wedi llwyddo i gael gwared ar grŵp o ddynion a oedd yn cyflenwi crac cocên a heroin yn weithredol yng Ngheredigion, er nad oedd cyffuriau yn eu meddiant pan gawsant eu harestio.
“Mae’r euogfarn hon a’r ddedfryd yn dyst i waith nifer o dimoedd ar draws yr heddlu, o’r timoedd ymateb cychwynnol, cudd-wybodaeth a gwaith fforensig digidol, i ddadansoddwyr ac unedau cyffuriau rhagweithiol.”