Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 6,000 o blant ysgol wedi dysgu am bwysigrwydd siarad yn ddiogel am drais yn erbyn menywod a merched, diolch i brosiect arloesol gan Heddlu Dyfed-Powys.
Perfformiad addysgol dwyieithog yw Torri ar Draws sy’n ymweld ag ysgolion ledled yr ardal heddlu i helpu plant i ddeall beth yw aflonyddu rhywiol, trais a gwahaniaethu mewn ffordd sy’n briodol ar gyfer oedran, a sut i weithredu fel cefnogwyr ar gyfer dioddefwyr.
Hyd yn hyn, mae dros 6,000 o ddisgyblion cyfnod allweddol 4 a 5 mewn 28 ysgol wedi cymryd rhan yng ngham cyntaf y prosiect. Fe wnaethant wylio drama a chymryd rhan mewn gweithdy i drafod y themâu a gyflwynwyd. Yna, rhoddwyd mynediad i athrawon i ddeunyddiau pellach ar gyfer gwersi dilynol.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Chris Neve, arweinydd Atal Heddlu Dyfed-Powys: “Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, sydd, yn anffodus, dal yn gyffredin yn ein cymunedau.
“Er y byddai rhai pobl yn ystyried hwn i fod yn bwnc anodd ei drafod gyda phobl ifainc, mae angen inni sicrhau bod ein plant yn ymwybodol o’r mathau o ymddygiadau sy’n briodol a beth sydd angen ei herio.
“Gyda hyn mewn cof, fe wnaethom gontractio Perfformiad Mewn Addysg i gyflwyno’r ddrama Torri ar Draws a gweithdai mewn ysgolion ledled yr ardal heddlu â’r nod o godi ymwybyddiaeth o ran pryd a sut i ymyrryd yn ddiogel os ydynt yn gweld ymddygiad problemus ymysg ffrindiau a chymheiriaid.
“Drwy siarad â phobl ifainc yn eu harddegau am y pynciau hyn mewn amgylchedd diogel a chyfarwydd, gallwn eu grymuso i weithredu, a bod yn gefnogwyr os ydyn nhw neu eu ffrindiau’n canfod eu hunain mewn sefyllfa anghyfforddus a allai droi’n rhywbeth mwy peryglus.”
Canmolwyd digwyddiadau ffug a chynnwys a oedd yn berthnasol ar gyfer oed y plant (14 – 16) gan athrawon, tra bod canlyniadau cadarnhaol dros ben yn dangos bod plant yn derbyn gwybodaeth allweddol.
Datgelodd arolygon a gwblhawyd cyn ac ar ôl y sesiynau bod bron ddwywaith cymaint o blant yn deall ystyr trais rhywiol yn erbyn menywod a merched ar ôl y sesiynau, tra bod 83% o ddisgyblion yn dweud eu bod wedi gadael yn teimlo’n hyderus y byddent yn medru ymyrryd yn ddiogel pe baent yn dyst i ddigwyddiad.
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, “Mae’r canlyniadau hyd yn hyn wedi dangos cynnydd sylweddol o ran ymwybyddiaeth a hyder ymysg ein pobl ifainc, sydd nawr yn teimlo y gallent adnabod arwyddion aflonyddu rhywiol, trais neu wahaniaethu, ac yn adrodd am ddigwyddiad pe baent yn ei weld.
“Mae’r rhaglen yn dysgu technegau diogel iddynt a phum ffordd o ymyrryd, drwy gymeriadau y gallant uniaethu â nhw mewn senarios realistig.
“Edrychwn ymlaen at gyflwyno mwy o’r sesiynau hyn dros y misoedd i ddod.”
Mae Rhaglen Cefnogwyr Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei ariannu ar y cyd gan gronfa Strydoedd Mwy Diogel 5 y Swyddfa Gartref sy’n canolbwyntio ar newidiadau i ymddygiad ac agwedd er mwyn gwella dealltwriaeth a hyder sydd wedi’i anelu at gefnogi ein hymrwymiad i ddod a thrais yn erbyn menywod a merched i ben a chreu mannau diogel yn ein cymunedau.
Mae mentrau eraill sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd yn cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth a bregusrwydd mewn prifysgolion a cholegau wedi’i anelu at fyfyrwyr rhwng 16 a 23 oed, yn ogystal â staff mewn addysg bellach; hyfforddiant Cynghreiriaid Dynion ar gyfer swyddogion heddlu, staff yr heddlu a phartneriaid; ac ymgyrch gyfathrebu gymunedol sy’n canolbwyntio ar ymddygiad annerbyniol a chodi ymwybyddiaeth o ran aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus.