Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, canfu swyddog o Heddlu Dyfed-Powys yn ddieuog o ymosod yn rhywiol drwy dreiddio yn dilyn achos llys yn Llys y Goron Abertawe.
Mae’r Ditectif Gwnstabl Sam Garside, sydd wedi’i leoli yn rhanbarth Ceredigion, wedi ei wahardd o'i waith ers mis Gorffennaf 2023, pan adroddwyd ei fod wedi cyflawni trosedd pan nad oedd ar ddyletswydd ym mis Rhagfyr 2021.
Gwadodd y drosedd, a chynhaliwyd achos llys yr wythnos hon. Heddiw, dychwelodd y rheithgor ddyfarniad dieuog.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Ifan Charles: “Roedd hwn yn honiad difrifol yn erbyn unigolyn sydd â chyfrifoldeb i ddiogelu pobl Dyfed Powys, ac felly cymerwyd camau cyflym pan gafodd yr adroddiad ei wneud.
“Cafodd Dy Ditectif Gwntstabl Garside ei wahardd ar unwaith o’i ddyletswyddau tra bod ymchwiliad llawn a thrylwyr yn cael ei gynnal, ac mae dyfarniad heddiw’n dod â’r broses cyfiawnder troseddol i ben.
“Dylid nodi y bydd yr heddlu nawr yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau ffurfiol o safbwynt camymddwyn gan swyddog heddlu yn unol â’r fframwaith statudol.
"Er y bydd canlyniad yr achos troseddol yn amlwg yn uniongyrchol berthnasol i’r asesiad hwn, mae’n bwysig nodi bod hyn yn ystyriaeth gwbl ar wahân.
"Bydd DC Garside yn parhau i fod wedi’i wahardd o’i ddyletswydd tra bod yr asesiad hwn yn cael ei gynnal a bydd unrhyw ddychweliad posibl i’r gwaith yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad hwnnw.”