Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhybuddir rhieni i feddwl ddwywaith cyn prynu sgwteri electronig ar gyfer y Nadolig rhag ofn y byddant yn torri’r gyfraith.
Er y gall fod yn demtasiwn prynu e-sgwter i’ch anwyliaid y Nadolig hwn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog rhieni i ystyried y peryglon posibl a’r oblygiadau cyfreithiol, cyn iddynt dalu cannoedd o bunnoedd am anrheg a allai fynd yn wastraff.
Yn y DU, y mae ond yn gyfreithlon defnyddio e-sgwteri ar dir preifat gyda chaniatâd y perchennog tir. Er nad yw’n anghyfreithlon prynu e-sgwteri, mae’n drosedd eu reidio ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd a llwybrau beicio.
Gallai rhieni fod yn agored i erlyniad os yw eu plant yn cael eu dal yn torri’r gyfraith. Gan eu bod nhw’n cael eu hystyried yn Gerbydau Trydan Ysgafn Personol, gallai reidwyr gael eu herlyn am sawl trosedd, gyda chanlyniadau’n cynnwys dirwy o £300, chwe phwynt cosb ar eu trwydded yrru, a’r perygl o gael yr e-sgwter wedi’i atafaelu.
Yn ogystal, gall unrhyw yrrwr sydd wedi llwyddo yn ei brawf yrru yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac sy’n cael ei ddal yn defnyddio e-sgwter yn anghyfreithlon gael ei wahardd rhag gyrru, a bydd yn rhaid iddo ailsefyll ei brawf theori a’i brawf gyrru ymarferol.
Dywedodd y Rhingyll Dave Mallin o Heddlu Dyfed-Powys: “Rydyn ni’n deall y gall e-sgwteri ymddangos yn syniad cyffrous, llawn hwyl, ar gyfer anrheg, ond mae’n bwysig deall y rheolau a’r peryglon sy’n gysylltiedig â nhw.
“Mae’n anghyfreithlon defnyddio e-sgwteri sy’n cael eu perchen yn breifat ar ffyrdd cyhoeddus, palmentydd neu lwybrau beicio. Gall eu cyflymder a’u tawelwch gyflwyno perygl sylweddol i ddiogelwch cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd, yn arbennig cerddwyr sy’n agored i niwed.
“Mae llawer o bobl yn anymwybodol o’r cyfyngiadau ar e-sgwteri, ac er y gall masnachwyr fod yn hapus i werthu un ichi, gall gael ei atafaelu’r eiliad fyddwch chi’n ceisio ei ddefnyddio mewn man cyhoeddus.”
Mae angen i reidwyr e-sgwteri fod dros 16 oed hefyd, a dal trwydded car/beic modur/moped lawn neu dros dro.
Er bod cynlluniau rhentu e-sgwteri sy’n gweithredu dan amodau llym yn cael eu treialu mewn rhai ardaloedd yn y DU, nid yw’r cynlluniau hyn yn cael eu cynnal yn ardal Dyfed-Powys ar hyn o bryd.
Ychwanegodd y Rhingyll Mallin: “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu ymagwedd dim goddefgarwch tuag at e-sgwteri, a byddwn yn annog rhieni i feddwl ddwywaith cyn prynu e-sgwteri yn anrhegion y Nadolig hwn ac ystyried anrheg mwy diogel a phriodol.”
Am ragor o wybodaeth am e-sgwteri, cliciwch yma Cyngor ar ddefnyddio e-sgwter | Heddlu Dyfed-Powys