Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dioddefwyr cam-drin domestig yn cael mwy o ddewis o ran y modd maen nhw’n cyfathrebu â’r heddlu diolch i dîm ymateb fideo newydd yn Nyfed-Powys.
Mae’r Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig yn galluogi dioddefwyr i ddewis pa un ai a ydynt eisiau derbyn galwad fideo wrth swyddog heddlu pan maen nhw’n adrodd am ddigwyddiad domestig difrys. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddynt o ran ble a phryd maen nhw’n siarad â swyddog am yr hyn sydd wedi digwydd, ac yn galluogi swyddogion i gael gwybodaeth a thystiolaeth yn gynt.
Lle mae digwyddiad yn cael ei raddio fel digwyddiad perygl uwch, bydd swyddogion yn mynd i leoliad y digwyddiad yn syth fel mater o drefn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Gerallt Jones: “Mae’r Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig yn galluogi dioddefwyr troseddau domestig nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau perygl uwch i dderbyn ymateb rheng flaen pan maen nhw ei angen. Yn y gorffennol, byddai’r digwyddiad yn cael ei bennu i swyddog lleol er mwyn iddo gysylltu â’r dioddefydd, ac o ganlyniad i’r galw mawr ar ein hadnoddau, yn anffodus, roedd rhai dioddefwyr yn aros rhy hir i siarad â rhywun.
“Mae ein gwasanaeth ymateb fideo nawr yn ein galluogi i nodi risg a chynnal asesiad o gyfleoedd tystiolaethol yn gynt, a dechrau rhoi cymorth mewn grym ar gyfer pobl sy’n byw gyda cham-drin domestig.
“Nid yn unig hynny, ond ar gyfer nifer o ddioddefwyr, bu’r gallu i gyfathrebu â swyddogion o bell yn fantais gan ei fod yn fwy disylw na chael swyddog yn eu cartref ac yn llai arswydus na gorfod ymweld â gorsaf heddlu. Gallai hyn fod wedi bod yn rhwystr rhag adrodd yn y gorffennol.”
Gyda’r Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig mewn grym, mae dal angen i ddioddefydd adrodd am ddigwyddiad yn y ffordd arferol – drwy alw 999 neu 101, adrodd ar-lein neu drwy neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd y triniwr galwadau’n brysbennu’r digwyddiad ac yn nodi pa un ai a yw’n addas ar gyfer ymateb fideo. Yna, bydd y dioddefydd yn penderfynu pa un ai a yw am dderbyn galwad fideo ai peidio, ac os yw’n cydsynio, anfonir ei fanylion at swyddog o’r Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig. Mae’r rhan fwyaf o ddioddefwyr nawr yn derbyn galwad yn ôl o fewn 24 awr, a gall drefnu apwyntiad ar gyfer trafod manylion llawn y digwyddiad.
Pan ystyrir fod gormod o risg yn gysylltiedig â digwyddiad, neu mae’r digwyddiad yn mynd rhagddo, bydd yn cael ei drin gan swyddogion rheng flaen.