Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 100 o ddioddefwyr cam-drin domestig yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn cymorth ychwanegol yn dilyn mabwysiadu ymagwedd blismona a ddatblygwyd yn y maes gwrthderfysgaeth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi treialu’r dull ‘pedwar P’ wrth gysylltu â dioddefwyr digwyddiadau domestig perygl cymedrol, gan arwain at chwarter o’r dioddefwyr yn dewis elwa o fesurau diogelu uwch.
Yn ystod y cynllun peilot chwe mis, cofnodwyd 455 o ddigwyddiadau cam-drin domestig perygl cymedrol yn Sir Gaerfyrddin, gyda phob dioddefydd yn cael cynnig cyswllt â swyddog o’r Tîm Plismona ac Atal Bro. O’r rhai a dderbyniodd, cynhaliwyd ymagwedd pedwar P tuag at ymgysylltu, gan ddilyn yr egwyddorion Paratoi, Diogelu, Atal ac Erlid.
Mae’r cynllun peilot, a ddechreuodd yn Llanelli ac a estynnwyd i Gaerfyrddin a Rhydaman, wedi bod mor llwyddiannus, mae’n cael ei gyflwyno ledled yr ardal heddlu nawr.
Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Thomas: “Datblygwyd y dull plismona pedwar P yn y maes gwrthderfysgaeth, ac felly gallai ymddangos yn anghyffredin i fabwysiadu’r dechneg hon wrth weithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig. Fodd bynnag, y nod cyffredinol yw gwarchod y dioddefydd rhag niwed pellach ac erlid y troseddwr, sy’n elfennau pwysig iawn mewn plismona math o drosedd lle mae troseddu mynych yn gyffredin, yn anffodus.
“Yn ystod y cynllun peilot, rhoddwyd y dewis i bob dioddefydd digwyddiad domestig perygl cymedrol ymgysylltu â swyddog o’r Tîm Plismona ac Atal Bro, sydd wedi mynd drwy’r tactegau paratoi, diogelu, atal ac erlid.
“O fewn chwe mis, rhoddwyd amddiffyniad a chefnogaeth ychwanegol i 115 o ddioddefwyr mewn un rhanbarth. Golyga hyn fod chwarter o’r bobl a gafodd eu heffeithio gan ddigwyddiadau cam-drin domestig a gafodd eu graddio’n risg cymedrol yn ystod y ffrâm amser hon yn medru cael eu diogelu ymhellach.
“Mae’r ymagwedd newydd wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ddioddefwyr, a oedd yn ddiolchgar am y cynnig o gysylltiad a chefnogaeth ychwanegol, a byddwn yn parhau â’r ymagwedd hon ledled yr ardal heddlu.”
Gweithiodd swyddogion o’r Tîm Plismona ac Atal Bro a ymgysylltodd â dioddefwyr drwy’r pedwar P fel a ganlyn:
Paratoi: Mae’r cam hwn yn galluogi swyddogion i weithio gyda’r dioddefydd drwy asesu amgylchiadau’r digwyddiad domestig a sefydlu pa un ai a yw’n addas cysylltu â’r dioddefydd. Os felly, llunnir cyswllt o fewn ffrâm amser penodol, gan ystyried ymgysylltiad cynt – er enghraifft, os oes angen pecyn diogelu.
Diogelu: Yn ystod y cam diogelu, mae swyddogion ystyried pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn atal troseddu pellach yn erbyn y dioddefydd. Y cam o ddewis yw i swyddogion gwrdd â’r dioddefydd wyneb yn wyneb er mwyn casglu tystiolaeth.
Atal: Mae’r trydydd cam yn gweld swyddogion yn ystyried pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith er mwyn atal troseddu pellach yn erbyn y dioddefydd. Gall swyddogion hefyd roi cynllun patrôl ar waith, neu gynllun ar gyfer cynnal gwiriadau mechnïaeth dros nifer o wythnosau.
Erlid: Mae’r cam olaf yn edrych ar gyfleoedd i erlid y troseddwr a’i ddwyn i gyfiawnder. Gallai hyn amrywio o arestiadau pellach os yw’r dioddefydd yn datgelu troseddau pellach, i orchmynion sifil yn erbyn y troseddwr yn cael eu datblygu.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Thomas: “Fe’n calonogir gan ganlyniadau’r cynllun peilot hwn, a gobeithiwn weld nifer y dioddefwyr sy’n derbyn ymgysylltu ychwanegol yn cynyddu wrth i’r ffordd newydd hon o weithio gael ei gwreiddio a’i deall.”