Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion Heddlu Dyfed Powys wedi bod yn lledaenu hwyl yr ŵyl drwy gasglu anrhegion i blant a allai fel arall fynd heb ddim y Nadolig hwn.
Penderfynodd swyddogion yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin, o’u gwirfodd i gymryd rhan yn yr Apêl Mr X blynyddol, sydd â’r amcan o sicrhau bod pob plentyn yn y gymuned yn cael profiad o hud y Nadolig, beth bynnag fo’u hamgylchiadau.
Mae Apêl Mr X, sydd nawr yn ei 65ain mlynedd, yn fenter hirsefydlog ar draws De Cymru, ac mae’n cydweithio gydag asiantaethau gofal plant i sicrhau bod pob plentyn o bob oedran yn derbyn anrheg adeg y Nadolig.
Mae pobl yn derbyn rhestr o blant dienw gyda’u hoed a’r anrhegion y byddent yn eu hoffi. Yna anfonir anrhegion heb eu lapio i fannau gollwng penodedig, ac fe’u trosglwyddir i’r asiantaethau priodol a fydd yn mynd â nhw i’r plant cyn y Nadolig.
Gan gydnabod yr heriau y mae nifer o deuluoedd yn eu hwynebu dros gyfnod y Nadolig, cychwynnodd y Ditectif Ringyll Jo Grey yr apêl am y 5ed mlynedd ac annog ei chydweithwyr i ddewis plentyn i brynu anrhegion ar eu cyfer.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Grey, sydd wedi ei lleoli yn Llanelli, fod hwn yn apêl agos at ei chalon a’i fod wedi mynd o nerth i nerth ers iddi ei gychwyn.
Dywedodd: “I nifer o blant gall y Nadolig fod yn amser anodd. Dyma beth yw neges y tymor hwn, dod ynghyd i gefnogi ein gilydd a sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael allan.
“Mae gen i wybodaeth uniongyrchol o bobl a oedd yn blant Mr X, felly rydw i’n gwybod y gwahaniaeth y gall wneud. Rydyn ni wedi ymateb i ddigwyddiadau a gweld yr anrhegion a roddwyd yn y tai, felly y mae hyd yn oed yn fwy buddiol o wybod eu bod yn cael eu defnyddio.”
Eleni fe wnaethant gasglu ar gyfer 132 o blant ac roedd y rhoddion yn cynnwys popeth o feiciau, a sgwteri, i setiau Lego, pramiau a theganau babanod.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Grey: “Mae’r ymdrech y mae pobl yn rhoi i mewn i’w hanrhegion yn wirioneddol syfrdanol. Mae’r ôl meddwl a’r caredigrwydd a ddangoswyd gan bawb wedi bod yn hollol ryfeddol. Roedd rhai o’r anrhegion yn cynnwys beiciau, sgwteri, sglefrfyrddau, dronau, llechi cyfrifiadurol, watsiau clyfar, oodies, Lego, doliau a phramiau, goleuadau nos, teganau a chysurwyr babanod, a mwy o ddinosoriaid nag a welais i erioed!
“Roedd mwyafrif y bagiau rhoddion yn torri gan eu bod mor llawn, gyda’r bag cyfartalog werth rhwng £80 a £100 yr un. Pan gychwynnais i hwn bum mlynedd yn ôl, fe wnaethom ni gefnogi 20 o blant, ac mae’r niferoedd sydd eisiau cymryd rhan wedi cynyddu bob blwyddyn.
“Gallaf i wir ddim diolch digon i bawb. Mae’r nifer o anrhegion rydyn ni wedi llwyddo’u prynu yn aruthrol.
Mae cynllun Mr X yn dangos yn glir nad yw pob plentyn mor ffodus â’r rhai rydyn ni’n eu hadnabod. Fodd bynnag, gyda diolch i’r bobl hynny a wnaeth roi anrhegion, maen nhw ychydig yn fwy ffodus eleni.”