Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae sglaffio’r twrci, mwynhau diferyn bach Nadoligaidd a threulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau’n drefn ddydd Nadolig a fydd yn canu cloch gyda nifer.
Ond bydd y diwrnod yn edrych yn wahanol iawn i’r rhai sy’n gweithio ar ddydd Nadolig wrth iddynt roi eu helmedau, setiau radio neu setiau pen, a’u lifrai ymlaen.
Gadewch inni gwrdd â thri o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys a fydd yn helpu i gadw cymunedau’n ddiogel ar ddydd Nadolig.
Mae Hannah wedi bod yn gweithio i’r heddlu ers dros chwe blynedd, gan weithio bron pob dydd Nadolig fel swyddog ymateb yn Llanelli. Eleni fydd ei Nadolig cyntaf fel triniwr cŵn gyda Rogue, ei chi heddlu tair blwydd oed.
Meddai: “Byddaf yn gweithio o 7y.b. tan 2y.h. ar ddydd Nadolig, sydd ddim rhy ffôl gan ei fod yn golygu y gallaf gael cinio Nadolig a chyfnewid anrhegion gyda fy rhieni ar ôl imi orffen gwaith.
“Wrth ymuno â’r heddlu, rydych chi’n disgwyl gweithio oriau anghymdeithasol. Mae’n rhan o’r swydd. Does dim gwahaniaeth gen i weithio gan fod naws da bob amser a digon o ysbryd tîm. Does gen i ddim plant, felly fe wnaf i helpu os alla i. Mae pawb yma’n dda iawn fel yna.
“Gallwch chi ddim disgrifio sifft Nadolig nodweddiadol. Dydych chi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n cael eich galw iddo. Mae’n wahanol bob blwyddyn, boed yn alwad am bobl sy’n agored i niwed neu ar goll neu’n ddigwyddiad domestig.
“Pan oeddwn i ar sifft yn Llanelli, prynodd ein rhingyll frechdanau bacwn inni gyd, a daeth pawb â digon o ddanteithion i mewn. Mae eich cydweithwyr i gyd yn yr un sefyllfa, ac mae pawb yn ceisio creu naws mor Nadoligaidd â phosibl.
“Bydd eleni’n wahanol gan mai cydweithiwr pedwar coes o’r enw Rogue fydd wrth fy ochr i’n bennaf!
“Byddaf yn cychwyn fy sifft adref ac yn sicrhau ei bod hi’n cael bwyd a dŵr. Efallai bydd hi’n cael rhai danteithion Nadoligaidd, ond nid gormod er mwyn sicrhau nad yw hi’n rhy llawn os bydd ei hangen ar gyfer digwyddiad. Y peth olaf rydyn ni eisiau yw ci diegni!
“Byddaf yn mynd â hi am dro hir, ac yna mae’n siŵr awn ni i’r orsaf i weld pa un ai a oes angen inni gynorthwyo ag unrhyw alwadau. Bydd modd cysylltu â mi drwy radio pe bai angen i Rogue a minnau fynd i leoliad digwyddiad.
“Mae’r swydd yn un gwerth chweil, ac rwy’n teimlo’n wylaidd iawn yn gwybod fod posibilrwydd y gallaf wneud gwahaniaeth ar ddiwrnod a allai fod yn erchyll i rywun.”
Ar ôl 28 mlynedd o wasanaeth, a threulio sawl dydd Nadolig yn y gwaith, bydd yr Arolygydd Geraint Griffith yn treulio ei Nadolig olaf ar ddyletswydd cyn iddo ymddeol yn y flwyddyn newydd. Bydd hefyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 54 oed.
Rhan o’i rôl fel Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu fydd cydlynu a thrin yr holl ddigwyddiadau a ddaw i mewn ar ddydd Nadolig, yn ogystal ag ymgysylltu’n effeithiol a gweithio ochr yn ochr â thimoedd rheoli rhanbarthol i’w dwyn i ddatrysiad diogel.
Eleni, y mae wedi gwirfoddoli i weithio’r sifft 6y.h. – 6y.b. ac fe fydd yn gweithio ochr yn ochr â’i ferch, Seren, a fydd hefyd yn gweithio yn y Ganolfan Gyfathrebu fel triniwr galwadau.
Meddai: “Rwyf wedi gweithio pedwar dydd Nadolig yn olynol, a gwirfoddolais i ddod mewn eleni gan y bydd fy merch yn gweithio ar ddydd Nadolig am y tro cyntaf, o hanner dydd tan hanner nos. Fe wnaeth hi ond dechrau ym mis Gorffennaf, felly hwn fydd ei diwrnod anoddaf hyd yn hyn. Bydd hi’n braf bod yno iddi a dod â’i chinio Nadolig i mewn iddi – dyna fy mhrif ddyletswydd!
“Byddaf yn treulio’r Nadolig gyda fy mab 17 oed a’m rhieni cyn dod i mewn i’r gwaith a bod gyda fy merch gyda’r nos.
“Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio mwy o Nadoligau nag rwy’n cofio, drwy weithio fel Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu, rhingyll a chwnstabl heddlu. Gall fod yn heriol, a gall fynd o fod yn gymedrol i fod yn brysur. O brofiad, trais neu gam-drin domestig yw’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau, sydd wedi’u hysgogi’n bennaf gan alcohol neu densiynau teuluol.
“Ni allwch fyth dweud beth fydd yn dod i mewn. Rydych chi’n disgwyl yr annisgwyl. Mae’r nosweithiau fel arfer yn brysurach.
“Ni waeth pa mor brysur ydych chi, fel arfer, mae awyrgylch da a digon o gyfeillach. Mae’n ben-blwydd arnaf ar ddydd Nadolig hefyd, ac ar fy mhen-blwydd yn 50 oed, daeth y tîm â chacen pen-blwydd i mewn imi, ac roedd baneri ac ati o gwmpas yr ystafell, felly roedd yr awyrgylch yn un da.
“Dros y blynyddoedd, rwyf bob amser wedi llwyddo i weld fy mhlant ar ryw adeg ddydd Nadolig, felly rydw i wedi bod yn ffodus iawn. Fe wnaethant dyfu i fyny’n gwybod bod yn rhaid imi weithio ar ddydd Nadolig weithiau ac mae’n rhywbeth yr ydym i gyd wedi arfer ag ef.
“Mae pobl bob amser yn hapus i newid sifftiau er mwyn helpu pobl sydd â phlant hefyd. Gobeithio y bydd fy Nadolig olaf yn un eithaf digynnwrf!”
Meddai: “Byddaf yn gweithio o 7y.b. tan 4y.h. ar ddydd Nadolig.
“Dros y blynyddoedd, rwyf wedi treulio sawl dydd Nadolig yn gweithio. Mae’n well gen i weithio yn y bore gan y byddaf yn medru cymryd rhan yn nathliadau’r Nadolig gyda’r teulu ar ôl fy sifft.
“Does gen i ddim plant, felly rwyf bob amser wedi bod yn hapus i helpu’r rhai sydd fod gweithio ac eisiau newid sifft i fod gyda’u plant.
“O fy mhrofiad dros y blynyddoedd, fel arfer, mae awyrgylch eithaf Nadoligaidd yn y gwaith, a bydd sifftiau’n ceisio trefnu rhywbeth arbennig, megis coginio brecwast i’w gael gyda’n gilydd neu ddod â bwyd parti i mewn.
“Ni fydd y rhan fwyaf yn cael Cinio Nadolig yn ystod y sifft. Daw hynny’n hwyrach ar ôl inni orffen, ac mae’n cadw ni i fynd drwy’r dydd.”
“Gall y sifft ei hun amrywio. Rwyf wedi gweld dim galwadau’n dod i mewn a dim byd yn digwydd drwy gydol y sifft, ac rwyf wedi gweld sifftiau prysur. Gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd a digwyddiadau cam-drin domestig yw’r prif alwadau a dderbynnir ar ddydd Nadolig.
“Mae’r sifft yn mynd ychydig yn gynt os oes llif cyson o waith yn dod i mewn. Mae pawb sy’n gweithio ar ddydd Nadolig yn dueddol o wneud y mwyaf ohono ac mewn hwyliau da.
“Rwy’n treulio’r Nadolig gyda fy rhieni yng nghyfraith, felly mae fy ngwraig yn mynd yno i helpu gyda’r dathliadau, ac yna rwy’n ymuno â nhw nes ymlaen. Pe na bawn i’n gweithio, byddwn i yno’n eu helpu gyda threfniadau’r dydd, a fyddai fel arfer yn cynnwys gormod o fwyd ac alcohol. O leiaf rwy’n torri lawr ar y calorïau drwy weithio!”